Ymholiadau
Os hoffech chi drafod un o’r swyddi, ffoniwch 01654 705955. Byddwn yn cydnabod pob cais drwy e-bost, felly os nad ydych wedi clywed yn ôl o fewn ychydig ddyddiau, ffoniwch ni i wneud yn siŵr bod eich cais wedi cyrraedd oherwydd rydyn ni weithiau’n cael trafferth derbyn negeseuon e-bost o gyfrifon gmail a hotmail.
Cyfleoedd Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli i CyDA yn cynnig y cyfle i chi feithrin sgiliau a chynorthwyo ein gwaith trwy gynnig datrysiadau ymarferol a dysgu ymarferol er mwyn helpu i greu byd di-garbon.
Rydym yn cynnig amrediad o wahanol gyfleoedd gwirfoddoli:
- Swyddi gwirfoddoli preswyl am chwe mis, gan aros ar safle CyDA.
- Gwirfoddoli am gyfnodau byrrach os ydych chi’n byw’n lleol neu os allwch drefnu eich llety eich hun.
Diwrnodau gwirfoddoli rheolaidd, er enghraifft ymuno â ni am ddiwrnod bob wythnos.
Dysgu Mwy
Gwirfoddoli yn CyDA
I gael rhagor o fanylion am gyfleoedd gwirfoddoli, cliciwch yma.
Swyddi Amgylcheddol
Methu gweld unrhyw beth sy’n addas i’ch sgiliau? Mae rhagor o swyddi sy’n ymwneud â’r amgylchedd ar gael ar environmentjob
Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr CyDA yn ceisio datganiadau o ddiddordeb mewn bod yn ymddiriedolwr gan bobl sydd â dealltwriaeth o dirlun gwleidyddol ac economaidd Cymru, a/neu brofiad mewn cyllid neu gyfrifeg.