Adeiladu gwesty chwilod


Home » Gweithgareddau i’r Teulu » Adeiladu gwesty chwilod

Helpwch y bywyd gwyllt yn eich gardd ganfod lle diogel i guddio drwy greu gwesty chwilod aml-lawr sy’n berffaith ar gyfer ystod eang o wahanol greaduriaid bychain cynhenid

Bydd denu peillwyr, infertebratau, mamaliaid bach ac amffibiaid i’ch gardd yn helpu i gefnogi ecosystem amrywiol ac iach, a chewch chithau llawer o hwyl yn gwylio eich cymdogion bywyd gwyllt hefyd.

Mae gwesty chwilod yn atodiad da i bwll dŵr yn eich gardd. I ganfod sut i adeiladu eich pwll bach eich hun, cliciwch yma.

Bydd Angen

Mae adeiladu gwesty chwilod yn ffordd dda o ddefnyddio petheuach sydd gennych yn y tŷ neu’r ardd. Byddwch yn greadigol a defnyddiwch eich dychymyg. Gallai bwndel o ffyn, hen friciau neu deils llechi wneud cartref perffaith ar gyfer bywyd gwyllt.

Gallwch ddefnyddio unrhyw rai o’r canlynol neu ychwanegwch eich syniadau eich hun.

  • Briciau
  • Darnau o bren
  • Cansenni bambŵ coeg (wedi eu torri’n ddarnau byr)
  • Bwndeli o ffyn
  • Conau pinwydd
  • Dail sych
  • Mwswgl
  • Hen botiau clai
  • Boncyffion (wedi pydru neu ffres)
  • Gwellt
  • Pridd

Cam wrth gam

1. Casglu deunyddiau

Bydd eich gwesty yn hollol unigryw, felly casglwch unrhyw ddeunyddiau y gallwch ddod o hyd iddynt at ei gilydd cyn cychwyn er mwyn cynllunio’ch gwaith. Y mwyaf amrywiol y deunydd a’r gwead yn eich gwesty y mwyaf o fywyd gwyllt y gallech ei ddenu, ac mae’n edrych yn wych i ni bobl hefyd.

2. Canfod y lleoliad cywir

I wneud eich gwesty’n addas ar gyfer amryw o wahanol greaduriaid, bydd angen gwahanol amgylcheddau. Bydd moch coed yn mwynhau lle tywyll, oer a llaith tra bod gwenyn unigol yn hoffi lle cynnes a sych.

Ceisiwch ddod o hyd i fan yn eich gardd sy’n cynnig cysgod a haul. Bydd eich gwesty yn amlhaen, felly gallai’r lloriau isaf fod yn gysgodol a llaith tra bod y lloriau uchaf yn cael haul uniongyrchol ac felly’n sychach. Lleoliad sy’n wynebu’r gorllewin neu’r de sydd orau, a dylai fod mor wastad â phosib.

3. Adeiladu’r sylfeini

Wrth i chi ychwanegu mwy o ddeunyddiau bydd eich gwesty’n mynd yn drymach, felly gofalwch bod y ddaear yr ydych yn adeiladu arno yn wastad, yn draenio’n dda ac yn sefydlog.

Astudiwch eich casgliad deunyddiau; byddwch angen briciau neu goed cadarn i adeiladu ffrâm sylfaenol solet.

4. Ychwanegu lloriau

Gyda sylfaen cadarn, gallwch ddechrau ychwanegu’r ‘lloriau’. Ystyriwch pa greaduriaid fydd yn defnyddio pob llawr. Defnyddiwch bridd, pren sy’n pydru, hen gonau pinwydd a mwswgl ger y gwaelod ar gyfer pryfed sy’n hoffi lle oer a llaith. Gallech hyd yn oed greu gwagle mwy o faint ar gyfer draenog neu lyffant.

Yn uwch i fyny, defnyddiwch ddeunyddiau sychach megis bwndeli o frigau, bambŵ neu wellt, dyrneidiau o ddail sych a hyd yn oed boncyffion sych gyda thyllau o wahanol faint wedi’u drilio ynddynt. (Gall oedolyn eich helpu i wneud hyn).

Amgylchynwch bob llawr gyda rhagor o friciau neu ddarnau o bren i gadw’r adeiledd yn gadarn gan lenwi’r bylchau â’ch deunyddiau.

Peidiwch â chodi’ch gwesty’n rhy uchel oherwydd mae angen iddo fod yn adeiledd cadarn a di-sigl na ellir ei gnocio na’i dynnu i lawr.

Gall gwesty chwilod fod mor fawr neu mor fach ag y dymunwch. Gall ychydig ddarnau o fambŵ a brigau wedi eu clymu at ei gilydd fod yn gartref gwych i wenyn unigol.

5. Rhowch do arno

I gadw’ch gwesty’n sych a chysgodol rhowch do ar ei ben. Gallwch ddefnyddio hen deils llechi, estyll pren, neu ffelt toi. Gofalwch bod y to a’r llawr yn sownd rhag iddynt gael eu chwthu gan wyntoedd cryf.

Llety 5 seren ar gyfer pryfed yr ardd.

6. Addurno eich gwesty

Ar ôl, adeiladu eich gwesty, gallwch ei beintio â lliwiau llachar neu blannu planhigion sy’n gyfeillgar i beillwyr gerllaw er mwyn denu gwesteion. Cofiwch olchi eich dwylo ar ôl gorffen.

7. Cadwch ef yn lân

Yr un fath â ni, mae yna rai creaduriaid nad ydynt yn hoffi byw mewn tŷ brwnt ac anniben (er bod eraill yn mwynhau hynny). Pob blwyddyn archwiliwch eich gwesty chwilod a gwneud unrhyw waith trwsio sydd ei angen. Adnewyddwch unrhyw ddeunydd organig sydd wedi pydru, yn enwedig ar y lloriau uchaf, ac ysgubwch ef allan.

Gall eich gwesty chwilod bara oes ac nid dim ond dros y cyfnod clo.

8. Rhannu eich gwesty chwilod

Tynnwch lun o’ch creadigaeth hyfryd a’i ddangos i ni!

I rannu eich lluniau, postiwch nhw ar dudalen facebook CyDA neu tagiwch @centreforalternativetechnology ar instagram. #CATatHome

COFRESTRU AR GYFER E-NEWYDDION

Am y diweddaraf o ran gweithgareddau, digwyddiadau ac eitemau ar-lein, cofrestrwch i dderbyn e-negesau a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol