Adeiladu pwll bach

Home » Gweithgareddau i’r Teulu » Adeiladu pwll bach

Mae sawl ffordd o ddenu bywyd gwyllt i’ch gardd neu iard gefn, ond creu ffynhonnell ddŵr iach yw un o’r ffyrdd gorau o wneud hyn. Y newyddion da yw y gallwch wneud hyn fel teulu gydag ond ychydig o ddeunyddiau, a’r gwanwyn yw’r amser perffaith o’r flwyddyn i wneud hyn.

YR HYN Y GALLECH EI WELD

Mae’n gyffrous gwylio rhianedd y dŵr, cychwyr bolwyn a chefnwyn, malwod, chwilod y dŵr ac, os byddwch yn lwcus, efallai y gwelwch ychydig fursennod yn gwibio dros y dŵr. Mae’n bosib hyd yn oed y gwelwch aderyn yn cael bath.

Beth fydd ei angen arnoch

  • Cynhwysydd mawr sy’n dal dŵr
  • Graean a cherrig glân
  • Planhigion ar gyfer pwll bach neu blanhigion mewn potiau i’w rhoi o amgylch y pwll

Cam wrth Gam

1. Dod o hyd i gynhwysydd mawr sy’n dal dŵr  

Gall hwn fod yn fwced mawr, hen sinc Belfast, neu hyd yn oed powlen golch llestri fawr. Rhaid iddo fod yn gryf i wrthsefyll bod y tu allan, yn enwedig pan fydd rhew.

Mae unrhyw fwced neu gynhwysydd sy’n dal dŵr yn gwneud y tro!

2. Dewiswch y lleoliad cyn ychwanegu’r dŵr

Bydd yn anodd ei symud unwaith y bydd yn llawn dŵr! Yn ddelfrydol dodwch ef mewn man â digon o olau ond nad yw’n cael yr haul drwy’r dydd. Gallwch ei gladdu yn y ddaear neu ei adael ar y wyneb, ond os yw’r ymyl yn lefel â’r ddaear, bydd mwy o greaduriaid yn gallu mynd i mewn ac allan.

Gan ein bod ni i gyd yn gweithio o gartref, rydym wedi dewis llecyn bach hyfryd mewn gwely blodau yn yr ardd.

3. Gofalu ei fod yn ddiogel i bawb

Gall hyd yn oed pwll bach fod yn beryglus i blant bach, felly rhowch ef mewn man diogel yng ngolwg oedolion.

4. Bant â chi

Rhowch haenen o gerrig mân yn y gwaelod. Mae hyn yn rhoi gwedd ddiddorol i’ch pwll ac yn helpu planhigion i wreiddio yn y gwaelod. Peidiwch â defnyddio pridd – mae’n cynnwys gormod o faetholion a bydd yn achosi algâu i ffurfio.

5. Gofalu bod gan eich pwll ysgol bywyd gwyllt

Defnyddiwch friciau, cerrig neu foncyffion i greu grisiau i mewn ac allan o’r pwll. Mae’n hanfodol nad yw’r pwll yn drap i greaduriaid megis draenogod.

Mae ychwanegu cerrig yn creu cuddfannau ar gyfer creaduriaid bach yn ogystal â bod yn fodd i ddianc ar gyfer draenogod lletchwith!

6. Hwre, nawr gallwch lenwi eich pwll

Os oes gennych gasgen ddŵr defnyddiwch y dŵr glaw o honno. Gall dŵr tap gynnwys llawer o gemegau fydd yn rhwystro datblygiad pwll newydd iach.

Os mai dim ond dŵr tap sydd ar gael, yna mae hynny’n iawn hefyd – efallai bydd y pwll yn cymryd mwy o amser i gyrraedd ei gydbwysedd naturiol.

7. Plannu eich pwll

Dyma’r rhan anoddaf os ydych am osgoi prynu pethau ar gyfer eich pwll. Dros amser, gall planhigion dyfrol ymddangos yn naturiol ac ym mhen hir a hwyr efallai y byddwch yn gallu cyfnewid planhigion pwll iach gyda ffrind neu gymydog. Ond, am nawr gallwch drawsnewid eich pwll yn hafan ddiogel ar gyfer bywyd gwyllt drwy osod phlanhigion ymylol.

Oes gennych blanhigion mewn potiau y gallech eu symud i ymyl eich pwll? Mae planhigion ymylol yn creu lloches ar gyfer bywyd gwyllt ymweliadol a pheth cysgod i’ch pwll.

Os a phan fyddwch yn gallu mynd at bwll lleol, a bod gennych ganiatâd, gall treillio pyllau er mwyn stocio eich pwll fod yn lot o hwyl!

8. Rhannwch eich pwll gyda phawb

Tynnwch lun o’ch pwll newydd ffantastig a rhowch wybod i ni pan welwch fywyd gwyllt yn ei ddefnyddio.

I rannu eich lluniau postiwch nhw ar dudalen facebook  CyDA neu tagiwch @centreforalternativetechnology ar instagram. #CATatHome

COFRESTRU AR GYFER E-NEWYDDION

Gallwch dderbyn y newyddion diweddaraf am ein gweithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein drwy gofrestru i dderbyn e-negesau a’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.