Ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ymweliadau wedi’u trefnu ymlaen llaw yn unig (cyrsiau, digwyddiadau, Gwely a Brecwast, grwpiau, myfyrwyr) – darllen mwy
Dod i adnabod eich cymdogion ym myd natur

Dod i adnabod eich cymdogion ym myd natur

Home » Gweithgareddau i’r Teulu » Dod i adnabod eich cymdogion ym myd natur

Nid ydym bob adeg yn sylwi ar ‘fynd a dod’ y creaduriaid bach sy’n rhannu ein byd, ond drwy sefyll a bod yn dawel gallwn ddechrau dod i adnabod ein cymdogion ym myd natur.

Beth allwn ni ei weld

  • Mae gan adar fel y robin a’r aderyn du diriogaethau diffiniedig iawn, felly os gwelwch un o’r rhain, neu’r ddau, yn rheolaidd, mae’n bosib eu bod yn gymdogion i chi.
  • Mae mamaliaid bach yn gwneud eu  cartref mewn twneli tanddaearol ond dônt allan i chwilio am fwyd a dŵr. Maent yn gallu bod yn swil iawn felly bydd rhaid bod yn dawel iawn i’w gweld.
  • Efallai y gwelwch  amrywiaeth eang o bryfed – o gachgi bwm ar ymweliad i foch y coed, morgrug a chwilod. Mae 27,000 rhywogaeth o bryfed yn y DU, tybed faint welwch chi?

Robin at CAT

Beth fydd ei angen arnoch

  • Ysbienddrych (os oes gennych rai)
  • Chwyddwydr neu bot chwilod (os oes gennych rai)
  • Taflenni adnabod y gellir eu lawrlwytho am ddim (Taflen 1Taflen 2)
  • Llyfr nodiadau a phen
  • Cwadrat cartref (cyfarwyddiadau yng ngweithgaredd ‘Gwneud eich cwadrat eich hun’ CyDA)

CAM WRTH GAM

1. Dewis eich llecyn byd natur

Dewiswch lecyn yn eich gardd neu wrth eich ffenestr. Dylai eich llecyn fod mor dawel a llonydd a phosib ond yn ddigon mawr i’ch galluogi i wylio byd natur heb darfu arno. Oes yna goeden ger eich tŷ y medrwch ei gweld? Neu efallai bod yna glawdd neu ardal sydd wedi tyfu’n wyllt y gallwch ei wylio.

2. Ymarfer eistedd yn dawel

Efallai ei fod yn swnio’n rhyfedd, ond nid yw sefyll a bod yn dawel wastad mor hawdd ag y mae’n swnio. Gofalwch eich bod yn gyfforddus, ewch â chlustog neu stôl ac ymarfer eistedd ac arsylwi am un funud.

Sut aeth hi? Allwch chi gynyddu eich amser?

3. Llunio amserlen gwylio natur

Gan fod rhaid i ni aros gartref, rhoddwyd i ni rodd amser. Mae hyn yn golygu y gallwch ymweld â’ch llecyn natur yn rheolaidd i weld a fedrwch adnabod unrhyw batrymau neu arferion ymhlith y bywyd gwyllt sy’n byw yno neu’n ymweld ag ef.

Fedrwch chi weld gwahaniaeth rhwng gweithgarwch y bore a’r hyn sy’n digwydd amser cinio? Pwy sydd allan ac o gwmpas ar wahanol amserau o’r dydd?

4. Paratoi eich offer

I sicrhau na fyddwch yn tarfu ar y bywyd gwyllt, gofalwch bod popeth sydd ei angen arnoch o fewn cyrraedd hawdd (nid ydych am roi ofn i’ch cymdogion byd natur wrth estyn am eich ysbienddrych).

5. Dechrau arni

A allwch chi gadw dyddiadur bywyd gwyllt a nodi’r hyn a welwch? Gallwch ei wneud yn fyw gyda nodiadau, lluniau, samplau o blanhigion wedi eu gwasgu, mapiau o’ch llecyn wedi’u tynnu â llaw, yn ogystal â’r data sy’n rhoi  perthnasedd gwyddonol i’ch arsylwadau (dyddiad, amser, tymor a thywydd).

Os ydych wedi gwneud cwadrat (gweler gweithgaredd CyDA ‘Gwneud eich cwadrat eich hun’, neu os oes gennych ysbienddrych, chwyddwydr neu bot chwilod, gallwch eu defnyddio i fynd ychydig yn agosach at eich cymdogion byd natur.

Os nad oes gennych un o’r rhain, peidiwch â phoeni, gallwch weld llawer drwy ddefnyddio eich synhwyrau.  Yn eich llyfr nodiadau maes, a fedrwch chi nodi o leiaf un peth yr ydych wedi ei weld gan ddefnyddio eich synhwyrau? Golwg, clyw, cyffwrdd (byddwch yn ofalus iawn) neu arogli. I gael canlyniadau gwell fyth wrth ddefnyddio eich synhwyrau i arsylwi, edrychwch ar weithgaredd ‘Archwilwyr synhwyrau’ CyDA.

6. Adolygu eich canfyddiadau

Ar ôl wythnos o wylio gofalus, a fedrwch chi fynd yn ôl drwy eich nodiadau maes a llunio unrhyw gasgliadau am arferion eich cymdogion ym myd natur?

A yw eich llecyn yn doreithiog o un math o bryfyn? Ystyriwch pam y maent yno. A yw eich llecyn yn ffynhonnell dda o fwyd i beillwyr? A ydych wedi gweld yr un aderyn neu famolyn dro ar ôl tro? A allent fod yn gymdogion bywyd gwyllt i chi? Mae gofyn cwestiynau yn hanfodol o ran casglu data am y byd naturiol.

  • Beth ydw i wedi ei weld?
  • A ydw i wedi sylwi ar hyn o’r blaen?
  • A oes yna batrwm? A oes rhywbeth wedi newid am ryw reswm?
  • A yw’r tywydd yn oerach heddiw?
  • A ydyw’n wahanol amser o’r dydd?
  • A allaf i ragweld beth fydd yn digwydd yfory?

7. Rhannu eich canfyddiadau

I rannu lluniau o’ch gwaith, postiwch nhw ar dudalen Facebook CyDA neu tagiwch @centreforalternativetechnology ar instagram. #CATatHome

COFRESTRU AR GYFER E-NEWYDDION

Gallwch dderbyn y newyddion diweddaraf am ein gweithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein drwy gofrestru i dderbyn e-negesau a’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.