Gwneud eich cwadrat eich hun

Gwneud eich cwadrat eich hun

Home » Gweithgareddau i’r Teulu » Gwneud eich cwadrat eich hun

Dyfais sgwâr pedair ochr syml yw cwadrat sydd, o’i osod ym myd natur, yn caniatáu i chi arsylwi a chofnodi’r hyn sy’n digwydd mewn lleoliad penodol. Gellir defnyddio’r ddyfais nifer o weithiau mewn nifer o leoliadau, ac mae’r canlyniadau a gofnodir gennych bob amser yn berthnasol i ardal benodol, gan eu gwneud yn fwy ystyrlon yn wyddonol.

BETH FYDD EI ANGEN ARNOCH

  • Siswrn
  • Tâp pibelli dŵr neu debyg (gallwch ddefnyddio cortyn ond mae hynny’n fwy anodd)
  • 4 darn syth o bren neu gansennau bambŵ 30cm o hyd fesul cwadrat

Ychwanegion dewisol ar gyfer defnyddio eich cwadrat:

CAM WRTH GAM

1. Paratoi eich deunyddiau

Mae gwneud eich cwadrat eich hun yn hwyl ond gall fod ychydig yn drafferthus, felly gofalwch bod y deunyddiau’n barod gennych. Mae hefyd yn syniad da i dorri darnau o dâp (tua 15cm) cyn cychwyn.

Tâp, cortyn neu unrhyw beth i’w clymu at ei gilydd.

2. Gwneud eich corneli

Cymerwch 2 o’r 4 darn pren a rhowch nhw at ei gilydd mewn siâp L ac yn gorgyffwrdd ychydig. Gan ddefnyddio darn o dâp sicrhewch eich siâp L gan ofalu eich bod yn lapio’r tâp yn dynn.

Pan fyddwch yn hyderus bod y cornel cyntaf yn sownd, gallwch ailadrodd y broses i ffurfio’r 3 chornel arall.

 

Atodwch y darnau pren at ei gilydd i greu’r cwadrat arsylwi.

3. Defnyddio eich cwadrat

Mor hawdd! Nawr bod gennych eich cwadrat eich hun gallwch fynd ‘allan i’r maes’ i’w brofi.

Dewiswch fan yn eich gardd, balconi neu leoliad allanol yr hoffech ei arsylwi. Yn bwyllog ac yn dawel rhowch y cwadrat i lawr ar y llawr (mae’n bwysig peidio â chodi ofn ar y bywyd gwyllt yn y lleoliad yr ydych yn dymuno ei arsylwi).

Mae unrhyw le y tu allan yn gweithio’n dda! Lawnt, gwely blodau a hyd yn oed darn o goeden.

4. Cofnodi’r hyn a welwch

Gan ddefnyddio taflenni adnabod y gellir eu lawrlwytho am ddim, neu ap bywyd gwyllt, cofnodwch yr hyn a welwch yn eich dyddlyfr bywyd gwyllt. Mae arsylwi ar natur dros amser yn esgor ar stori gyffrous am y byd o’ch cwmpas. Pa newidiadau neu debygrwydd fyddwch yn eu canfod dros ddyddiau, wythnosau a misoedd?

Awgrym defnyddiol! Gallwch ymarfer defnyddio eich cwadrat yn y tŷ gan ddefnyddio golygfa bywyd gwyllt mewn llyfr neu ar boster.

5. Rhannu eich canfyddiadau

I rannu eich canfyddiadau a lluniau o’ch llecynnau natur, postiwch nhw ar dudalen facebook CyDA neu tagiwch @centreforalternativetechnology ar instagram. #CATatHome

COFRESTRU AR GYFER E-NEWYDDION

Gallwch dderbyn y newyddion diweddaraf am ein gweithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein drwy gofrestru i dderbyn e-negesau a’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.