Tyfu eich bwyd eich hun: Plannu hadau

Tyfu eich bwyd eich hun: Plannu hadau

Home » Gweithgareddau i’r Teulu » Tyfu eich bwyd eich hun: Plannu hadau

Y Gwanwyn yw’r amser i ddechrau meddwl am…FWYD. Gellir plannu hadau llysiau a pherlysiau cynnar mewn tŷ gwydr neu hyd yn oed mewn man cynnes, heulog mewn ffenestr.

Does dim angen llawer o le na deunydd arbennig i dyfu bwyd, ac mae’n llawer o hwyl i fwyta’r bwyd yr ydych wedi ei dyfu eich hun.

BYDDWCH ANGEN

  • Potiau bach neu diwbiau papur tŷ bach gwag
  • Compost potio neu bridd uchaf
  • Hadau o’ch dewis chi – ystyriwch yn ofalus. Os mai dim ond lle tyfu bach sydd gennych yna efallai nad corbwmpenni a phwmpenni yw’r dewis gorau i chi. Ond gallai tomatos neu fefus fod y berffaith i chi.

CAM WRTH GAM

1. Paratoi eich potiau

Os oes gennych botiau bach rhowch nhw mewn cynhwysydd sy’n dal dŵr. Gallwch ailgylchu blwch madarch ar gyfer hyn. Mae rholiau papur tŷ bach yn gwneud potiau egino da oherwydd maent am ddim a gellir eu hailgylchu (eu plannu’n syth yn y ddaear) a’u compostio ac mae rhai ar gael gan bawb.

2. Ychwanegu pridd

Llenwch eich potiau i ychydig dros yr hanner gyda chompost potio neu bridd o’r ardd.

3. Plannu eich hadau

Bydd gan bob math o blanhigion wahanol anghenion, felly darllenwch gefn y pecyn hadau cyn cychwyn. Efallai bydd angen gwasgu eich bys i mewn i’r pridd i wneud twll bach i osod yr hedyn ynddo, yna gorchuddiwch ef ag ychydig bridd. Neu efallai bydd angen gwasgaru’r hadau ar y top a thaenu haenen o bridd drostynt.

4. Dyfrio eich hadau

Mae angen dŵr ar eich hedyn bach yn awr i ddechrau’r broses egino. Byddwch yn ofalus – gall gormod o ddŵr yn rhy sydyn achosi’r hedyn i arnofio i’r wyneb, ac ni fydd yn hoffi hynny. Os oes gennych botel chwistrellu lân, defnyddiwch hon am ychydig droeon; os nad oes, rhowch ychydig ddiferion o ddŵr ar y tro.

5. Canfod man heulog

Nawr rhaid canfod man heulog a chynnes ar gyfer eich hadau. Mae ffenestr sy’n wynebu’r de yn berffaith. Ni fydd ffenestr sy’n wynebu’r gogledd yn cael digon o olau na gwres.

6. Ychydig mwy o ddŵr

Wrth i’ch hedyn droi’n eginblanhigyn bydd angen mwy o ddŵr arno, ond dim gormod. Y ffordd orau i ddweud os yw eich planhigyn ifanc yn sychedig yw gwthio eich bys i’r pridd yn ysgafn. Os yw’n teimlo’n sych, rhowch ddŵr, os nad yw, gadewch ef am ychydig ddiwrnodau eto.

7. Digon o le i dyfu

Pan fydd eich hedyn bach wedi tyfu’n eginblanhigyn, bydd angen ei roi mewn pot yn fwy. Dysgwch fwy am hyn yn y gweithgaredd nesaf – sy’n dod yn fuan…

8. Rhannwch eich cynnydd

Tynnwch luniau o’ch gardd a rhannu eich cynnydd. I rannu eich lluniau, postiwch nhw ar dudalen Facebook CyDA neu tagiwch @centreforalternativetechnology ar instagram #CATatHome

COFRESTRU AR GYFER E-NEWYDDION

Am y diweddaraf o ran gweithgareddau, digwyddiadau a’n hadnoddau arlein, cofrestrwch i dderbyn e-negesau a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol