Creu dyfodol mwy gobeithiol ers 50 mlynedd

Creu dyfodol mwy gobeithiol ers 50 mlynedd


Home » Creu dyfodol mwy gobeithiol ers 50 mlynedd

Wrth i CyDA ddathlu’r 50 mawr mae’n amser i edrych yn ôl ar bum degawd o weithredu amgylcheddol ymarferol ac i ddathlu gyda’n gilydd effaith ein gwaith.

Fel yn y dyddiau cynnar, mae ein pwyslais o hyd ar weithio tuag at yfory mwy diogel, teg a chynaliadwy. Felly mae’r pen blwydd pwysig hwn yn gyfle gwych hefyd i edrych ymlaen at y bennod nesaf yn ein hanes.

Mae Stori CyDA yn un llawn gobaith.

Nid ffydd ddall mewn yfory gwell, ond gobaith sydd wedi’i seilio ar waith caled, profiad o fywyd ac ymchwil drylwyr. Ers y diwrnod cyntaf, rydym wedi bod yn rhoi prawf ar ein syniadau ar sut i fyw’n fwy cynaliadwy, mewn cytgord â’r byd naturiol yr ydym i gyd yn rhan ohono. Ers 1973 a hyd 2023, mae ein cartref yn y Canolbarth wedi esblygu o fod yn gymuned o arloeswyr amgylcheddol a oedd yn rhannu gweledigaeth i fod yn elusen addysgol a oedd yn cael effaith ymhell ac agos. Drwy gydol y cyfnod hwn, rydym wedi bod yn torchi ein llewys ac wedi cymryd camau ymarferol i helpu i wella cymdeithas er gwell.

safle CyDA
Ddoe a heddiw: heddiw mae safle CyDA yn hafan werdd braf gydag amrywiaeth ryfeddol o fywyd gwyllt.
Safle’r hen chwarel ddechrau’r 1970au
Safle’r hen chwarel ddechrau’r 1970au

O arbrofion arloesol i ganolfan ymwelwyr

“Yr hyn oedd ei angen oedd prosiect i ddangos natur y broblem ac i ddangos ffyrdd o symud ymlaen,” meddai sylfaenydd CyDA, Gerard Morgan-Grenville. Yn y 1970au roedd ymwybyddiaeth gynyddol o’r effaith negyddol roedd pobl yn eu cael ar y blaned. Roedd llyfrau fel Small is Beautiful (1973) gan EF Schumacher a Limits to Growth y Club of Rome (1972) yn cyrraedd cynulleidfa ehangach, ac roedd y brys i weithredu’n dod yn fwy a mwy amlwg.

Wedi’u hysbrydoli gan gymunedau amgen yn y DU a’u symbylu gan bryderon cynyddol am effaith amgylcheddol tanwydd ffosil, cafodd CyDA ei chreu. Cafodd yr hadau eu hau gan griw bychan o beirianyddion, penseiri, adeiladwyr a thyfwyr, a oedd yn chwilio am ffordd i fyw’n syml ond yn dda, ond gan droedio’n ysgafnach ar y ddaear. Symudodd yr arloeswyr hyn i hen chwarel lechi a mynd ati i arbrofi ar bopeth o gynhyrchu ynni adnewyddadwy i ffermio organig – ffyrdd ‘amgen’ sydd erbyn heddiw’n rhai prif ffrwd. Wrth i’r hanes am yr hyn a oedd yn digwydd ym mynyddoedd Canolbarth Cymru ledaenu, roedd mwy a mwy o bobl am ei weld drostynt eu hunain. Agorodd canolfan ymwelwyr CyDA yn 1975 i arddangos y technolegau a’r dewisiadau a oedd wrth wraidd cymdeithas fwy cynaliadwy, gan rannu gweledigaeth ein sylfaenwyr â llawer mwy o bobl.

Hen lun o dyrbin gwynt arbrofol yn CyDA
Arbrofion cynnar mewn ynni gwynt – rhywbeth a ystyrid fel technoleg ‘ymylol’ ar y pryd

Trawsnewid cartref CyDA

Ar ôl 50 mlynedd o waith caled gan staff a gwirfoddolwyr ymroddedig, a chefnogaeth miloedd o bobl o bob rhan o’r byd, mae safle CyDA wedi’i drawsnewid yn llwyr.

Mae’r diffeithwch ôl-ddiwydiannol a feddiannwyd ar y dechrau erbyn yn hyn hafan gyfoethog i fywyd gwyllt, gydag amrywiaeth gyfoethog o erddi, coetiroedd a phyllau dŵr. Mae’r hen adeiladau ar y safle wedi cael eu hadnewyddu ac ochr yn ochr â hwy mae adeiladau gwyrdd newydd, arloesol, lle gall ymwelwyr a myfyrwyr ddarganfod, dysgu a gorffwys. Nid oedd hyn yn hawdd. O’r cychwyn cyntaf, roedd y bobl a oedd yn byw ac yn gweithio yn CyDA yn gwneud pridd i dyfu bwyd, roeddent adfer ac adeiladu adeiladau heb ddim neu fawr ddim effaith dymor hir ar yr ardal, yn cynhyrchu systemau ynni adnewyddadwy fel na fyddai’n rhaid defnyddio tanwydd ffosil, ac yn rheoli’r coetiroedd cyfagos fel y gallai rhywogaethau dan fygythiad rannu eu cartref.

Talodd y gwaith caled ar ei ganfed, gan drawsnewid yr amgylchedd lleol ac ennill clod a gwobrau i CyDA ar hyd y ffordd am ei gwaith unigryw i wneud pethau’n wahanol.

Ymchwil ac arloesi

Mae gofyn cwestiynau wedi bod yn ganolog i athroniaeth CyDA o’r cychwyn. Sut beth fyddai dyfodol mwy cynaliadwy? Ym mha ffordd fyddai’n rhaid inni newid ein ffordd o fyw i gyflawni’r weledigaeth hon? Pa ddulliau sydd wedi gweithio mewn rhannau eraill o’r byd a sut allem ni eu gwella? Dros y blynyddoedd, rydym wedi arbrofi â ffyrdd newydd o gynhyrchu compost a thrin gwastraff, â deunyddiau a dulliau adeiladu carbon isel arloesol, pob math o wres adnewyddadwy, a llawer mwy. Nid oedd ein harbrofion i gyd yn gwbl lwyddiannus, ond mae pob un wedi ein helpu i ddysgu a thyfu. Mae llawer o’r rhai a fu’n astudio yn CyDA wedi mynd ymlaen i sefydlu eu busnesau eu hunain, gan barhau i arloesi a’r rhoi’r hyn maent wedi’u ddysgu ar waith yn y byd mawr. O brosiectau ynni cymunedol i oergelloedd brechlynnau sy’n rhedeg ar ynni solar, mae’r wybodaeth a’r rhwydweithiau sydd wedi deillio o CyDA wedi newid a hyd yn oed achub bywydau.

Ers 2007, mae prif bwyslais ein hymchwil wedi bod ar ein prosiect Prydain Sero Carbon, sy’n cynnig gweledigaeth derfynol o sut y gallai’r DU gyrraedd allyriadau sero net drwy ddefnyddio’r dechnoleg sydd ar gael heddiw. Rydym wedi llwyddo i gael cynghorau, busnesau a mudiadau cymunedol i gydnabod y rhwystrau rhag cyrraedd ein nodau hinsawdd a chreu dulliau ar y cyd â hwy i’w goresgyn. Drwy rannu’r hyn rydym yn ei ddysgu gyda’n gilydd – o’n ‘Alternative Energy Strategy for the UK’ i adroddiad ‘Zero Carbon Britain: Rising to the Climate Emergency’ (2019), rydym wedi dangos i lywodraethau a phenderfynwyr sut y gellid lleihau dibyniaeth ar danwyddau ffosil ac wedi pwysleisio’r ddadl dros weithredu ar frys.

Addysg i bob oed

Ers degawdau bellach, rydym wedi croesau’r ifanc a’r llai ifanc i’n canolfan ymwelwyr i ddysgu mwy am yr argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth a’r rôl y gallant ei chwarae i fynd i’r afael â’r sefyllfa. Mae teuluoedd, grwpiau ysgol a myfyrwyr wedi cael eu haddysgu a’u hysbrydoli i weithredu ar ystod eang o bynciau’n ymwneud â chynaliadwyedd. Yn y 1980au, cyflwynwyd cyrsiau penwythnos ac wythnos o hyd mewn ymateb i’r galw cynyddol am hyfforddiant mewn ynni adnewyddadwy ac adeiladu cynaliadwy. Mae’r hyfforddiant hwn wedi gwneud gwybodaeth a sgiliau arbenigol yn elfen ganolog o sectorau o bensaernïaeth i adeiladu ac wedi gwneud pobl yn gatalyddion dros newid yn eu gweithleoedd a’u cymunedau.
Gydag angen i ymateb i’r bygythiad i’r hinsawdd ar fyrder, agorwyd ein Hysgol yr Amgylchedd i Raddedigion yn 2007 i helpu gweithwyr proffesiynol a graddedigion i gael yr adnoddau i gyflymu’r newid i gymdeithas fwy cynaliadwy. Hyd yma, mae dros 2,000 o bobl wedi astudio gyda ni, ac mae effaith hynny wedi bod yn bellgyrhaeddol wrth iddynt rannu’r hyn maent wedi’i ddysgu â’u rhwydweithiau. Yn awr, bob blwyddyn, rydym yn denu degau o filoedd o ymwelwyr a dysgwyr.

Rhannu syniadau â llunwyr polisi – Paul Allen o CyDA (trydydd o’r dde) yn cyflwyno ein hymchwil Prydain Carbon Sero yn nhrafodaethau hinsawdd y Cenhedloedd Unedig
Rhannu syniadau â llunwyr polisi – Paul Allen o CyDA (trydydd o’r dde) yn cyflwyno ein hymchwil Prydain Carbon Sero yn nhrafodaethau hinsawdd y Cenhedloedd Unedig

Y bennod nesaf

Er ein bod yn eithriadol o falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni, nid dyma’r amser i orffwys ar ein rhwyfau. Mae’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth yn mynnu gweithredu brys os ydym am osgoi’r canlyniadau gwaethaf. Mae’n bryd meddwl ar raddfa fwy fyth.

Mae gennym weledigaeth yn CyDA lle bydd llawer mwy o bobl yn ymweld â ni, yn dilyn cyrsiau ac yn cael eu symbylu i helpu i greu dyfodol mwy diogel. Ar y cyd â’n cefnogwyr, rydym wedi datblygu cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer gofodau newydd i addysg mewn datrysiadau cynaliadwy, meysydd i gyflwyno sgiliau gwyrdd ar gyfer y dyfodol, a phrofiad cyflawn o safon fyd-eang i ymwelwyr. Drwy ddefnyddio’r cyfleusterau hyn, mi allwn addysgu ac ysbrydoli pobl am bwysigrwydd systemau dolen gaeedig a byw ein bywydau fel rhan o’r byd naturiol ehangach.

Bydd ymrwymiad ein sylfaenwyr i droedio’n ysgafn yn nodwedd o’r holl waith hwn. Rydym wedi ymrwymo i ailddatblygu ein canolfan eco mewn ffordd sydd nid yn unig mewn cytgord â natur ond sy’n wirioneddol adfywiol, gan gyfoethogi’r cynefinoedd natur amrywiol sydd ar garreg ein drws. Bydd y CyDA newydd a gwell hwn yn enghraifft ymarferol a phrydferth o’n gwerthoedd. Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i arddangos y dull adfywiol rydym yn ei hybu, gan ddylanwadu ar brosiectau datblygu eraill ledled y byd. Mae maint yr heriau sy’n ein hwynebu’n mynnu mwy o uchelgais ac angen i weithredu. Ac rydym yn barod am hynny.

Mae cyrsiau penwythnos ac wythnos yn helpu pobl i ddatblygu sgiliau newydd mewn ynni, adeiladu, rheoli coetiroedd, a llawer mwy

Cymuned CyDA

Fel elusen, mae ein cefnogwyr brwd ac ymroddgar yn ganolog i bopeth rydym wedi’i gyflawni yn ystod yr 50 mlynedd diwethaf ac i lwyddiant ein cynlluniau am y dyfodol.
O’r rhoddion misol sy’n ein galluogi i barhau â’r hyn rydym yn ei wneud i’r cymynroddion sy’n ein helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol, mae cefnogaeth pobl fel chi yn golygu bod popeth yn bosibl. Nid ydym erioed, ac ni fyddwn byth, yn ei gymryd yn ganiataol.

Mae CyDA yn llawer mwy na’r hyn sy’n digwydd ar ein safle yn y Canolbarth. Rydym yn gymuned eang ac amrywiol o bobl o bob cefndir sy’n rhannu gweledigaeth o fyd mwy diogel a chynaliadwy, ac sy’n cael eu symbylu i wireddu hynny.

Diolch i chi am eich cefnogaeth hyd yma ac am sefyll ochr yn ochr â ni wrth inni barhau â’n gwaith holl bwysig.

Hyd yma, mae mwy na 2,000 o bobl wedi astudio ar gyfer gradd ôl-raddedig gyda CyDA (mae’r llun yn dangos seremoni raddio’r llynedd)
Plant yn cofleidio wrth edrych trwy hwb tyrbin gwynt

Gwneud cyfraniad un-tro

Newidiwch y byd gyda ni heddiw. Bydd eich cyfraniad yn helpu i rannu atebion ac addysg ymarferol. Ffurflenni ar gael yn Saesneg yn unig.
Woodlands near CAT

Dathlu pen blwydd CyDA yn 50 oed gyda’n gilydd

Ymunwch â ni’r haf hwn, wrth inni ddathlu ein pen blwydd yn 50 oed gyda diwrnod yn llawn digwyddiadau i’r teulu cyfan, gan gynnwys gweithdai, sgyrsiau, teithiau, cerddoriaeth a llawer mwy.
50th at CAT