Cyn Cadeirydd Ymddiriedolwyr CyDA yn derbyn MBE

Cyn Cadeirydd Ymddiriedolwyr CyDA yn derbyn MBE


Home » Cyn Cadeirydd Ymddiriedolwyr CyDA yn derbyn MBE

Yn ddiweddar derbyniwyd Michael Taylor, cyn Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr CyDA (rhwng 2010-2022), MBE ar Restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2025 am ei wasanaethau i Elusen ac Arloesedd.

Yn ystod ei ddegawd fel Cadeirydd, mae Michael neu Mick fel mae’n cael ei adnabod, wedi chwarae rhan ganolog yn natblygiad ein llywodraethu, ein rheolaeth a’n cyfeiriad strategol. Mae ei arweiniad wedi helpu’r Ganolfan i fynd o nerth i nerth, gan ein rhoi mewn sefyllfa lawer cryfach i gynyddu ein heffaith a’n dylanwad i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Gyda diddordeb brwd yn yr amgylchedd a byw bywyd cynaliadwy, ymunodd Mick â Bwrdd Ymddiriedolwyr CyDA yn 2009 gyda dros 25 mlynedd o brofiad fel Rheolwr Buddsoddi ar gyfer cronfeydd bywyd a phensiwn mawr. Ers rhoi’r gorau i’w swydd fel Cadeirydd, mae Mick wedi parhau i fod yn rhan â’n gwaith fel elusen addysg amgylcheddol, mewn rôl ymgynghorol ac fel aelod annibynnol o’r grŵp llywio sy’n goruchwylio ein cynlluniau ailddatblygu, Cynefin.

Dywedodd Eileen Kinsman, Cyd-Brif Swyddog Gweithredol CyDA “Ar ôl cael y fraint anhygoel o weithio gydag ef am dair blynedd pan oedd yn Gadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, hoffwn longyfarch Mick ar dderbyn yr anrhydedd hon. Daeth Mick yn Ymddiriedolwr CyDA yn ystod cyfnod heriol a daeth yn Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr CyDA yn fuan wedyn. Nid yw’n gor-ddweud pe na bai am arweinyddiaeth Mick, ni fyddai Canolfan y Dechnoleg Amgen yn sefydliad ffyniannus y mae heddiw: elusen amgylcheddol fyd-enwog, eco-ganolfan o’r radd flaenaf ac un o’r darparwyr addysg amgylcheddol ôl-raddedig mwyaf blaenllaw yn y DU.”

Wrth dderbyn yr anrhydedd dywedodd Mick “Rwyf wrth fy modd o fod wedi derbyn yr anrhydedd hwn, yn enwedig oherwydd ei gysylltiad â fy rhan mewn sefydliad mor unigryw fel CyDA ar adeg pan mae ei waith ar addysg amgylcheddol ac atebion mor bwysig. Mae wedi bod yn fraint anhygoel bod yn rhan o orffennol, presennol a dyfodol CyDA ac rwy’n hynod falch o’n cyflawniadau ar y cyd ac yn gyffrous i weld CyDA yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth rymuso pobl gyda’r sgiliau, y wybodaeth a’r ysbrydoliaeth sydd eu hangen i greu dyfodol mwy disglair”.

Ymunwch â Bwrdd Ymddiriedolwyr CyDA

Mae CyDA ar hyn o bryd yn recriwtio ymddiriedolwyr newydd i ymuno â’u Bwrdd yn benodol pobl sydd â phrofiad o gyllid neu gyfrifeg, neu sydd â dealltwriaeth o dirwedd wleidyddol ac economaidd Cymru. Os hoffech chi chwarae rhan weithredol yn y broses strategol o oruchwylio gwaith yr elusen a rhannu angerdd am genhadaeth CyDA, darllenwch ein Gwybodaeth ar gyfer Darpar Ymddiriedolwyr neu cysylltwch â trustee.recruitment@cat.org.uk. Bydd datganiadau o ddiddordeb yn cau ar 31 Ionawr 2025.

COFRESTRU AM NEGESEUON E-BOST

Gallwch gael gwybod am yr holl weithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf trwy gofrestru i gael ein negeseuon e-bost a’n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech gymryd rhan a chynorthwyo ein gwaith, hoffem eich croesawu i fod yn aelod o CyDA.