Hyfforddiant Prydain Ddi-Garbon a Llythrennedd Carbon

Home » Adnoddau a Chyngor » Hwb a Labordy Arloesi Prydain Di-garbon » Hyfforddiant a Digwyddiadau – Prydain Di-garbon

Grymuso gweithredu ar gyfer yr hinsawdd trwy gyfrwng hyfforddiant cynaliadwyedd pwrpasol ac y mae modd archebu lle arno ar gyfer sefydliadau, busnesau, dinasyddion, cymunedau a chyrff cyhoeddus.

Mae CyDA yn gweithio gydag ystod eang o grwpiau a sefydliadau er mwyn darparu hyfforddiant hinsawdd a chynaliadwyedd pwrpasol sy’n meithrin arweinyddiaeth, sy’n dyfnhau dealltwriaeth ac sy’n ysgogi newid ystyrlon.  Cynlluniwyd ein rhaglenni i ddiwallu anghenion penodol eich sefydliad, eich sector neu eich rhanbarth, a’ch helpu i feithrin y sgiliau a’r hyder i weithredu ar gyfer yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Mae tîm Prydain Ddi-Garbon CyDA yn dwyn degawdau o brofiad ym maes addysg cynaliadwyedd, addasu a newid hinsawdd, datgarboneiddio a hwyluso, gan helpu timau a grwpiau ar draws y DU ac yn rhyngwladol i ymwreiddio gweithredu ar gyfer yr hinsawdd yn eu gwaith.
 

Gallwn eich cynorthwyo gyda: 

  • Hyfforddiant ar gyfer y sefydliad cyfan – o’r arweinwyr i’r timau rheng flaen
  • Datblygu eich cyrsiau eich hun – wedi’u teilwra i’ch sector a’ch nodau
  • Hyfforddi eich hyfforddwyr – meithrin capasiti mewnol ar gyfer addysg hinsawdd
  • Cyflwyno rhaglenni hyfforddiant – ar draws adrannau neu gymunedau
  • Sesiynau DPP wedi’u hachredu – ar gyfer datblygiad proffesiynol
  • Darpariaeth hybrid ac ar-lein – ffurfiau hyblyg a fydd yn addas i’ch anghenion
  • Cymorth hwyluso a strategaeth – ar gyfer gwneud penderfyniadau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid
  • Newid diwylliant ac ymddygiad – ymwreiddio cynaliadwyedd mewn arfer bob dydd
  • Dulliau bioranbarthol ac sy’n seiliedig ar le – cynorthwyo ymatebion dinesig i newid hinsawdd
Course participants in the Sheppard Theatre

Dysgwch fwy am ddewisiadau cymorth a hyfforddiant Llythrennedd Carbon CyDA, sesiynau hyfforddiant Llythrennedd Carbon y mae modd archebu lle arnynt, a chysylltwch â’r tîm i gael gwybod mwy.

Events

Looking across the CAT site