Cynyddu gweithredu lleol yn Nyffryn Dyfi
Medi 11, 2024Home » Cynyddu gweithredu lleol yn Nyffryn Dyfi
Mae Andy Rowland o Fachynlleth wedi bod yn rhedeg Ecodyfi, ymddiriedolaeth ddatblygu nid-er-elw sy’n cynorthwyo ac sy’n cysylltu grwpiau cynaliadwyedd cymunedol yn yr ardal leol, ers 26 o flynyddoedd. Mae Catriona Toms yn ystyried rhai o gyflawniadau niferus y prosiect ysbrydoledig hwn, gan rannu gwersi ar gyfer ardaloedd eraill sydd ag uchelgais debyg.
Wrth wraidd pob cymuned sy’n sicrhau bod newid yn digwydd, ceir pobl sy’n cyflawni pethau.
Ym Machynlleth, ers bron i dri degawd, mae Andy Rowland wedi bod yn un o’r rhain. Ym 1998, helpodd Andy i sefydlu Ecodyfi, menter gymdeithasol gyda gweledigaeth o gael cymuned ffyniannus, iach, gofalgar, cydlynol, dwyieithog ac sydd ag ymagwedd iach, a gaiff ei chydnabod yn eang am fyw mewn ffordd gynaliadwy. Ers hynny, mae’r fenter wedi dwyn cymysgedd amrywiol o bobl a sefydliadau ynghyd i gynnal yr amgylchedd naturiol wrth gynyddu cydnerthedd yr economi leol a gwella lles pobl.
Cychwyn egnïol
Ar y dechrau, roedd Ecodyfi yn bartneriaeth rhwng CyDA, cwmni ynni adnewyddadwy Dulas, Cyngor Sir Powys ac eraill a oedd yn gweld ei botensial i drawsnewid yr ardal leol. Gan fynd ati i geisio sicrhau bod yr economi leol yn fwy cynaliadwy, penderfynodd y partneriaid gwreiddiol gychwyn gyda’r sector ynni. Cyflogwyd Andy fel y swyddog prosiect ar gyfer y Prosiect Ynni Adnewyddadwy Cymunedol, a ariannwyd i raddau helaeth gan yr Undeb Ewropeaidd, gan helpu i ddatblygu prosiectau pŵer gwynt, solar a hydrodrydanol cymunedol.
Dywedodd, “O’r cychwyn, bu’r amgylchedd a’r economi yn feysydd allweddol i weithio gyda nhw a’u cydblethu – ble mae gennych chi y sefyllfaoedd lle y mae pawb ar eu hennill, lle y caiff gwrthdaro rhyngddynt ei osgoi?
Mae ynni adnewyddadwy cymunedol yn un o’r rhain, oherwydd wrth gwrs mae gennych chi y manteision byd-eang mewn perthynas â newid hinsawdd ac ynni glân, a manteision lleol o gynyddu swyddi cynaliadwy yn y busnesau hynny. A lle y gall defnyddwyr lleol ddefnyddio’r trydan neu’r gwres a gynhyrchir gan ffynonellau gwyrdd, sy’n osgoi sefyllfa lle y bydd eu harian yn gadael yr economi leol ac yn mynd i’r corfforaethau mawr, ac yn ei gadw yn cylchdroi yn yr ardal leol yn lle hynny.”
Llywodraethu a chyllid cynaliadwy
Roedd hi’n bwysig i Andy a’r sylfaenwyr gwreiddiol bod Ecodyfi yn cael ei ddatblygu mewn ffordd gymunedol ac ar lawr gwlad. Yn 2002, cynhaliwyd ymgynghoriad cymunedol, a oedd yn holi beth ddylai cylch gwaith y sefydliad fod a sut fyddai pobl yn dymuno cyfrannu. Penderfynwyd y byddai Ecodyfi yn cyflawni cylch gwaith adfywio cymunedol ehangach, gan gynnwys meysydd a oedd yn cynnwys trafnidiaeth, rheoli adnoddau a gwastraff, coetiroedd a thwristiaeth. Daeth y grŵp yn sefydliad cymunedol lle y byddai’r aelodaeth yn ethol bwrdd cyfarwyddwyr yn ystod cyfarfod cyffredinol blynyddol, ac mae hon yn system lywodraethu sydd wedi bodoli ers hynny.
Er yr ariannwyd y prosiect gan grantiau ar y dechrau, wrth i amser fynd yn ei flaen, gwelwyd hyn yn newid i fod yn economi fwy cymysg, wrth i Ecodyfi ymgeisio am gontractau masnachol yn ogystal ag ymgeisio am grantiau, gan weithio law yn llaw â chyrff anllywodraethol mwy o faint yn aml i gyflawni prosiectau ehangach ar gyfer Cymru gyfan ar raddfa leol.
Mae Andy yn disgrifio’r grŵp fel hwyluswyr yn hytrach nag adeiladwyr, gan brynu arbenigedd i mewn yn ôl yr angen. Mae’n dweud bod ei gefndir yn CyDA wedi helpu i ddarparu gwybodaeth a sgiliau defnyddiol fodd bynnag, “Roedd gennyf brofiad ym maes ynni cymunedol gan fy mod wedi bod yn gweithio yn CyDA yn flaenorol. Er nad oeddwn yn beiriannydd, dysgais gryn dipyn o wybodaeth ac yna dysgais fwy wrth gyflawni’r swydd.”
Cynorthwyo a chyflawni prosiectau cymunedol
Yn ystod y degawdau ers hynny, mae Ecodyfi wedi cyflawni rôl bwysig wrth gynnig cyngor, seilwaith, cymorth wrth godi arian a gwaith hwyluso ar gyfer ystod eang o brosiectau. Mae wedi helpu i hau’r hadau a meithrin y mentrau y byddent wedi ei chael hi’n anodd cychwyn gan nad oedd ganddynt gyfrifon banc, statws elusen neu gwmni swyddogol, neu swyddfeydd.
Yn aml, mae Andy a’r tîm wedi helpu i gychwyn prosiectau trwy ddwyn darpar bartneriaid ynghyd a hwyluso sgyrsiau a chreu consensws er mwyn i brosiect symud yn ei flaen. Mae nifer wedi mynd ymlaen i fod yn fentrau lleol unigol llwyddiannus ac sy’n cynnal eu hunain. Yn aml, caiff prosiectau mwy o faint lle y mae gan Ecodyfi rôl ddarparu neu reoli yn cael eu cyflawni ar y cyd â sefydliadau nid-er-elw eraill.
Mae’r rhain wedi bod mor amrywiol â Chaffi Trwsio Machynlleth, gan helpu’r gymuned leol i achub eitemau sydd wedi torri rhag cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi; Tyfu Dyfi, sy’n tyfu’r economi fwyd amaeth-ecolegol leol; Dolau Dyfi Meadows, yn cefnogi tyddynwyr gyda systemau pori sy’n cynnig budd i flodau gwyllt; a Thrywydd Iach, prosiect iechyd yn yr awyr agored sy’n cynnal gweithgareddau yn yr amgylchedd naturiol ac sy’n monitro lles cyfranogwyr.
Ceir ffocws ar yr economi fwyd leol ar hyn o bryd. Er bod Machynlleth yn gartref i arddwriaethwyr gwybodus a medrus iawn, mae nifer yn ei chael hi’n anodd gwneud bywoliaeth neu weithredu ar raddfa. Mae Ecodyfi yn eu cynorthwyo ac yn meithrin eu cysylltiadau, nid yn unig gyda’i gilydd ond hefyd gyda chaffis a manwerthwyr, gan gynnwys y siop ar-lein wythnosol bwrpasol o’r enw Bwyd Dyfi Hub.
Effaith ysbrydoledig
Mae Andy yn dweud ei bod yn anodd barnu’r effaith y mae Ecodyfi wedi ei chael, gan bod cymdeithas gyfan wedi newid cymaint dros y 26 mlynedd ddiwethaf. Ond mae rhai pethau y mae’n arbennig o falch ohonynt – menter Biosffer Dyfi, y prosiectau ynni adnewyddadwy a gychwynnodd popeth ac sy’n parhau i gynnig budd heddiw, y staff a’r gwirfoddolwyr ymroddedig sydd wedi bod yn rhan o’r daith, a’r rhaglenni lles.
Mae’n canmol yr holl rai sy’n gweithio’n galed ar gynaliadwyedd ar draws y gymuned am y newidiadau cadarnhaol yn yr ardal, gan ddweud, “Mae nifer o entrepreneuriaid cymdeithasol eraill o gwmpas, yn gwneud eu pethau eu hunain. Dylem fod yn fwy cysylltiedig fyth am hyn nag yr ydym – nid yw’n hawdd. Mae’n ymwneud â gweithredu mewn ffyrdd sy’n cadw ysbryd unigol y gwahanol brosiectau i fynd.”
Mae Ecodyfi yn ystyried ei chenhadaeth fel proses barhaus. Ychwanegodd Andy, “O’r dechrau, rydym wedi dymuno cynnwys pawb yr oeddem yn gallu eu cynnwys wrth roi’r lle hwn ar drywydd mwy cynaliadwy. Mae’n daith ac mae’n hir, ond sut allwn ni gyrraedd y fan honno mor gyflym ag y bo modd, gan ddod â chymaint o bobl ag y bo modd gyda ni?”
Gwersi i’w rhannu
Er ei fod wedi dysgu sawl gwers yn ystod y cyfnod, mae Andy yn credu ei bod yn anodd cynghori cymunedau eraill sy’n dymuno dilyn ôl troed Ecodyfi, gan bod sefyllfa pob ardal yn unigryw. Ond mae ganddo gyngor gwerthfawr i’w rannu:
“Mae maint y problemau yr ydym yn eu hwynebu yn golygu bod yn rhaid i ni gynyddu ein heffaith yn gyflym. Y peth pwysig yw peidio colli perchnogaeth leol neu berthnasedd. Mae ymdrechion gwirfoddolwyr yn amhrisiadwy ond yn gyfyngedig, ac mae hyn yn anochel, felly mae sicrhau adnoddau ariannol ar gyfer rolau proffesiynol yn bwysig. Meddyliwch am fanteision yr hyn yr ydych yn ei wneud i ddarpar gyllidwyr, a cheisiwch reoli tensiynau rhwng gwahanol bobl sydd â dyheadau sy’n gorgyffwrdd.”
“Mae’n ystrydeb, ond mae gennym oll ran i’w chwarae. Mae’n bwysig cynnig ffyrdd i bobl y gallant gymryd rhan wrth chwilio am ffyrdd o fyw mwy cynaliadwy, yn hytrach na dweud wrthynt yr hyn i’w wneud, neu’n waeth fyth, rhoi pregeth iddynt. Mae bod yn obeithiwr proffesiynol yn helpu.”
Ar ddiwedd mis Ebrill eleni, ar ôl tri degawd anhygoel, penderfynodd Andy ymddiswyddo o’i rôl fel Cyfarwyddwr Rheoli Ecodyfi. Mae’n gadael y sefydliad yn nwylo medrus y bwrdd etholedig a thîm craidd bach. Ond nid yw’n diflannu’n llwyr – gan ddisgrifio ei hun fel rhywun sydd wedi ‘lled-ymddeol’, mae’n bwriadu aros ymlaen am ychydig eto i weithredu strwythur a chyllid a fydd yn gweld Ecodyfi, y Biosffer a chyfoeth anhygoel y mentrau cymunedol yn y dyffryn arbennig hwn yn parhau i ffynnu ymhell i’r dyfodol. Yn y cyfamser, mae’n edrych ymlaen i dreulio mwy o amser yn mwynhau’r byd natur, y bobl a’r lleoedd y mae wedi eu gwasanaethu mor dda am gymaint o flynyddoedd.
Biosffer Dyfi
Roedd Ecodyfi yn bartner sefydlol Biosffer Dyfi. Mae Biosffer yn ardal ddynodedig gan UNESCO (Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig) lle y mae pobl yn peilota ffyrdd newydd o gynnig budd i fyd natur a’r hinsawdd, yn ogystal â’u dyfodol eu hunain trwy gydweithio a defnyddio adnoddau mewn ffyrdd mwy cynaliadwy.
Enwebir y safleoedd hyn gan lywodraethau cenedlaethol ac mae’n rhaid iddynt gyflawni tri nod:
- Cadwraeth – diogelu bywyd gwyllt, cynefinoedd a’r amgylchedd.
- Datblygu – annog cymuned ac economi gynaliadwy.
- Addysg – cynorthwyo ymchwil, monitro a chreu rhwydweithiau byd-eang er mwyn dysgu a rhannu.
Er y pennir y nodau hyn gan UNESCO, mae lle i waith dehongli lleol. Mae Biosffer Dyfi yn rhoi pwyslais mawr ar y dreftadaeth ddiwylliannol, yn enwedig yr iaith Gymraeg, yn ogystal â threftadaeth naturiol, gan annog pobl i werthfawrogi a dathlu’r man lle y maent yn byw.
- Uncategorized
Pynciau Cysylltiedig
Related events
Creu Dodrefn Paledi
8th Chwefror 2025Prydain Di-garbon: Ar-lein yn Fyw – Ehangu Gweithredu Cymunedol
6th Mawrth 2025Creu Dodrefn Paledi
8th Mawrth 2025COFRESTRU AM NEGESEUON E-BOST
Gallwch gael gwybod am yr holl weithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf trwy gofrestru i gael ein negeseuon e-bost a’n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech gymryd rhan a chynorthwyo ein gwaith, hoffem eich croesawu i fod yn aelod o CyDA.