Aros
Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn ganolfan eco byd enwog sy’n swatio yn nhroedfryniau deol Parc Cenedlaethol Eryri ac o fewn Biosffer Dyfi UNESCO.
Mae CyDA’n cynnig amrywiaeth o opsiynau gwely a brecwast a llety i blesio unrhyw grŵp, ac mae’r dyffryn a’r bryniau coediog o amgylch yn gefndir trawiadol i’r cyfan.
Llety Gwirioneddol Eco
Yma yn CyDA rydym yn credu mewn byd lle mae bodau dynol yn troedio’n ysgafn ar y ddaear wrth fwynhau safon byw dda. Mae ein llety 4 seren yn ategu’r weledigaeth hon.
Mae’r adeiladau wedi’u dylunio’n ofalus gan ddefnyddio dulliau a deunyddiau eco; defnyddir ynni’n ofalus ac mae gosodiadau ynni adnewyddadwy ar y safle yn bwydo i’r grid. Gwresogir yr adeiladau gan ein boeleri biomas ein hunain ar y safle, ac mae dŵr cawodydd a basnau golchi adeilad WISE yn cael eu gwresogi gan gelloedd solar thermol ar y to.