Byd o Gynaliadwyedd
Mae CyDA yn ganolfan addysg amgylcheddol lle y gallwch archwilio technolegau a syniadau eco-gyfeillgar mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol.
Nid oes un ateb unigol fydd yn helpu lleihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr yn gyflym. Mae angen gweithredu ar draws cymdeithas, gan weithredoli ystod eang o atebion cynaliadwy.
Wrth archwilio safle CyDA, ewch ar daith i ddarganfod sut mae atebion yn cyd-fynd a sut y gallwn ni i gyd cydweithio i greu byd mwy cynaliadwy.
Isod, archwiliwch yr hyn y gallwch ei weld yn ystod diwrnod allan yn CyDA.
YNNI
O gadwraeth ynni i gynhyrchu ynni adnewyddadwy, mae gan CyDA 50 mlynedd o brofiad o ddefnyddio ystod eang o dechnolegau ynni. Ar y safle, cewch weld ynni gwynt, solar, hydro a biomas, yn ogystal ag ystod eang o dechnegau arbed ynni.
ADEILADU GWYRDD
Cyfle i brofi adeiladau prydferth ac arloesol sydd wedi ennill gwobrau, dysgu technegau hunan-adeiladu a gweld sut y mae syniadau pensaernïol ac adeiladu wedi esblygu ers y sefydlwyd CyDA ym 1974.
GERDDI
Mae gan CyDA wyth gardd organig wahanol i’w harchwilio, o ardd fach iawn mewn cynhwysydd i gae dwy erw. Ar hyd y ffordd, cewch weld gardd goedwig arbrofol, rhandir clasurol, yr ardd gofalu am y pridd a dau dwnnel polythen gwahanol iawn.
COETIROEDD A BYWYD GWYLLT
Ymlwybrwch trwy goetir a reolir mewn ffordd gynaliadwy i fwynhau golygfeydd bendigedig o’r dyffryn islaw neu ddarganfod y bywyd gwyllt sydd wedi ymgartrefu yn CyDA.
CyDA Hanesyddol
Wedi’i sefydlu mewn chwarel lechi segur, mae CyDA wedi dod yn bell ers ein dechreuadau.






