Coedwigoedd a Bywyd Gwyllt
Crwydro drwy ein coedwigoedd a reolir mewn modd cynaliadwy gan gadw llygad ar agor am rywogaethau bywyd gwyllt diddorol a phrin.
Pan sefydlwyd CyDA gyntaf, doedd dim llawer yma heblaw tomenni llechi. O’r cychwyn roedd gwneud y safle yn well cartref i fywyd gwyllt yn flaenoriaeth.
Ac rydym wedi llwyddo: mae’r safle yn awr yn gartref i greaduriaid megis yr ystlum trwyn pedol llai, pathew, gwybedwr brith, telor y coed, melyn yr eithin, barcud coch, bwncath, dwrgi, ffwlbart a’r hebog tramor, yn ogystal â rhywogaethau prin o fadarch ac amrywiaeth eang o fwsoglau, rhedyn a choed.
Rheoli Coedwigoedd
Rheolir coedwigoedd CyDA i fod yn gynhyrchiol ac i wella bioamrywiaeth. Wrth gerdded o gwmpas fe welwch glystyrau o goed aeddfed a choedlannau (coedlannu – dull traddodiadol o reoli coedwigoedd, lle mae darnau o goedwig yn cael eu cwympo o bryd i’w gilydd i gael coed tân a phren adeiladu, a’u gadael i aildyfu o’r bonion)
Llwybr Y Chwarel
Mae Llwybr y Chwarel yn arwain ymwelwyr fry uwchben y Ganolfan a gallwch ddysgu am systemau dŵr oddi-ar-y-grid cynaliadwy CyDA, darganfod bioamrywiaeth lewyrchus y safle ac edrych lawr ar olion Chwarel Llwyngwern a’n gorffennol hanesyddol.
Ardal Gweithgareddau’r Goedwig
Ychydig y tu hwnt i Ardd y Goedwig mae ein hardal goediog. Yma, ambell waith, fe welwch aelodau o’r staff yn defnyddio ceffyl naddu, turn polyn a daliwr hollti i drin coed wedi eu coedlannu er mwyn creu amryw o eitemau defnyddiol.
Y Caban Gwenyn
Wedi ei leoli yn yr Ardd Rhandir, mae’r caban gwenyn yn fodd i ni ddysgu llawer am fywyd y pryfed hynod a phwysig hyn. Mynnwch gipolwg ar eu bywydau prysur a dysgu sut y maent yn cyfathrebu. Darganfyddwch hefyd sut y gallwch helpu i warchod rhywogaethau gwenyn rhag difodiant drwy blannu’r blodau y maent mwyaf eu hangen.







