Cyflwyniad i waith coed gwyrdd a dysgu am gelf a gwyddoniaeth cerfio shrincbotiau.
Treuliwch ddiwrnod mewn lleoliad prydferth yn dysgu sut i gerfio shrincbot o’r dechrau i’r diwedd. Mae’r cwrs yma’n gyflwyniad gwych i waith coed ac mae’n cwmpasu dewis deunydd, defnyddio offer yn ddiogel, technegau cerfio, sychu a gorffen. Byddwch yn gadael gyda’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddechrau cerfio a gydag un neu ddau o botiau o’ch gwaith llaw eich hun!
Gwybodaeth allweddol
- Hyd: un diwrnod
- Dyddiad nesaf: Dydd Gwener 25 Awst 2023
- Amser: dechrau am 10am a gorffen am 4.30pm
- Cost: £85
- Yn cynnwys: hyfforddiant, yr holl offer a deunydd, cinio bwffe
- Beth sydd ei angen arnoch: gan fod hwn yn gwrs ymarferol iawn, mae angen i chi ddod ag esgidiau diogelwch ac rydym yn eich cynghori i ddod â dillad glaw
- Telerau ac Amodau
- rhaid i chi fod yn 18 oed neu hŷn i fynychu ein cyrsiau.
- Cliciwch yma am restr gyflawn o’r telerau ac amodau.
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu popeth sydd angen i chi ei wybod a’i wneud er mwyn creu shrincbot celfydd i fynd adref gyda chi. Byddwn yn dilyn y broses o’r dechrau i’r diwedd; dewis coedyn gwyrdd, gwneud cafn yn y canol a gosod sylfaen bren sych ac yna aros i’r pot sychu a ‘shrincio’ o amgylch y sylfaen er mwyn creu cynhwysydd cadarn, wedi’i selio – yn union fel y byddai’r Llychlynwyr yn ei wneud ar eu cychod hir!
Delfrydol i’r rhai sy’n gwbl newydd i’r grefft neu’r rhai sydd wedi dechrau gweithio â phren gwyrdd, gan y byddwch yn magu’r sgiliau a’r hyder ar y cwrs yma i ddechrau cerfio gartref.
Mae’r cwrs hwn yn ffordd wych o ymlacio a chreu anrhegion, addurniadau ac eitemau ymarferol unigryw, isel eu heffaith eich hun. Mae’n gyfle hefyd i ailgysylltu â’r awyr agored ac anghofio am straen bywyd am ennyd.
Bydd y pynciau dan sylw yn cynnwys:
- Ffynonellau, mathau a ffurfiau pren ar gyfer cerfio shrincbotiau
- Offer, eu gofal, a’u defnydd
- Defnyddio bwyell yn ddiogel a thechnegau torri â chyllyll yn ddiogel
- Egwyddorion a dyluniadau shrincbotiau
- Llifio a llunio tu allan y potiau
- Defnyddio ebill a chŷn i wneud twll gwag yn y pot
- Torri rhigol a gosod sylfaen i’r pot
- Llunio caead a ffinial
Trafodaethau am sychu a gorffeniadau. Mae’r gweithdy ymarferol hwn wedi’i leoli yn yr awyr agored ond dan do. Darperir yr holl offer a deunydd, ynghyd â chinio llysieuol blasus o’n caffi ar y safle.
Cyflwyniad i’ch tiwtoriaid
Eich tiwtor am y diwrnod fydd Neil Hopkins o Forge Ways.
Symudodd Neil i Ddyffryn Dyfi yn 2007 i weithio fel Rheolwr Prosiect Peirianneg Adnewyddadwy ac i fyw mewn ffordd fwy cynaliadwy ar dyddyn ar odre Mynyddoedd Cambria.
Yn angerddol am sgiliau traddodiadol a ffyrdd o fyw effaith isel, mae gan Neil gyfoeth o brofiad yn hyfforddi yn yr awyr agored ac mae ganddo gymwysterau a phrofiad mewn coedyddiaeth, gwaith pren gwyrdd a choedwriaeth.
Related events
Hyfforddiant Llythrennedd Carbon Am Ddim yn ystod y Dydd ym Mhowys
12th Rhagfyr 2024Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Carbon Am Ddim ym Mhowys
17th Rhagfyr 2024Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd: Tyrbinau Gwynt
11th Ionawr 2025Searching Availability...