Cyflwyniad i Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi

Cyflwyniad i Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi


Home » Cyflwyniad i Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi

Ailfeddwl y ddarpariaeth ynni ar gyfer cartrefi – rhoi ynni yn eich dwylo gwyrddach eich hunan. 

Mae tarddiad ein hynni yn cael effaith fawr, ac i gyrraedd Prydain Di-garbon rhaid ailfeddwl o ddifrif. Os hoffech osod ynni adnewyddadwy yn eich cartref ond nid ydych yn siŵr sut, pa opsiwn i fynd amdano, a beth yw’r gost a’r buddion tebygol, bydd y cwrs hwn yn rhoi trosolwg cyffredinol i chi i’ch helpu i benderfynu.

Gwybodaeth allweddol

  • Parhau: un dydd
  • Dyddiad nesaf: dydd Sadwrn 4ydd Chwefror 2023
  • Amserau cychwyn a gorffen: cychwyn am 10am a gorffen am 4.30pm
  • Ffi: £80
  • Yn cynnwys: hyfforddiant a’r holl ddeunyddiau.
  • Beth sydd ei angen arnoch: argymhellir dillad gwrth-ddŵr 
  • Telerau ac Amodau:

Beth fyddwch yn ei ddysgu 

Bydd y cwrs, sy’n cwmpasu hanfodion ynni gwynt, solar ffotofoltaidd, biomas a phympiau gwres, yn eich helpu i benderfynu pa dechnolegau adnewyddadwy fydd fwyaf addas i’ch anghenion.

Cewch arweiniad ar sut i lunio proffil ynni cartref, a sut i’w addasu i weddu i’r ddarpariaeth ynni sydd ar gael i chi. Byddwn yn edrych ar bwyntiau pwysig dewis a defnyddio technoleg, gan gynnwys opsiynau storio ynni. Byddwch hefyd yn dysgu ble i ddod o hyd i ddata perthnasol, sut i ddadansoddi’r data ac ystyried amrywiadau tymhorol.

Mae’r pynciau a drafodir yn cynnwys:

  • Proffilio’r galw am bŵer ac ynni
  • Asesu safle a strategaeth dewis technoleg
  • Cyrchu data adnoddau
  • Systemau hybrid 
  • Dadansoddi amledd sylfaenol a modelu allbwn. 
  • Elfennau sylfaenol systemau gwynt /solar /biomas /pympiau gwres
  • Deall y broses o ddewis technoleg
  • Gwybodaeth sylfaenol am storio ynni a batris 

Mae gwybodaeth sylfaenol am MS Excel (neu debyg) yn ddymunol ar gyfer y cwrs hwn.

Cyrsiau dilynol 

Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad i gyfres o gyrsiau undydd ymarferol a manwl sy’n archwilio gwahanol dechnolegau ynni adnewyddadwy. Bydd y gyfres yn eich arfogi â’r sgiliau a’r wybodaeth i roi gwahanol dechnolegau adnewyddadwy ar waith yn eich cartref, ond gellir eu cymryd fel cyrsiau annibynnol hefyd.

Cyfarfod â’ch tiwtoriaid

Mae Alan yn Beiriannydd Ynni Siartredig ac yn ddarlithydd ar ein cyrsiau ôl-raddedig yma yn CyDA.  Mae ei ymchwil yn amrywio o fodelu rhifiadol systemau ac adnoddau ynni adnewyddadwy yn Ewrop i ddatblygu polisi a strategaeth ynni cynaliadwy rhyngwladol yn ardaloedd ôl-wrthdaro/ôl-drychineb De Ddwyrain Asia.

Searching Availability...