Cyfle i dreulio diwrnod yng ngerddi organig llewyrchus CYDA yn archwilio iechyd pridd a chompostio yn ystod y cwrs undydd byr hwn.
Mae pridd iach yn hanfodol ar gyfer llawer mwy na chynnig amgylchedd i blanhigion dyfu gan ei fod yn helpu i buro dŵr, storio carbon, ac mae’n rhan hanfodol o ecosystemau iach.
Byddwch yn cychwyn y diwrnod gyda thaith o gwmpas gerddi CYDA, gan ddarganfod sut y gwnaethom greu’r gerddi ar safle a oedd yn ‘dir llwyd’ moel yn wreiddiol, sut y caiff iechyd y pridd ei borthi a’r gofal a roddir iddo, a sut yr ydym yn defnyddio systemau compostio amrywiol er mwyn gwella iechyd y gerddi yn gyson.
Mae’r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn garddio, compostio ac iechyd pridd. Ni fydd gofyn i chi gael unrhyw wybodaeth neu brofiad blaenorol.
Gwybodaeth Allweddol
- Hyd: un diwrnod
- Dyddiad nesaf: 12 Ebrill
- Amseroedd cychwyn a gorffen: bydd yn cychwyn am 9:30am ac yn gorffen am 4.30pm
- Ffi: £125
- Bydd yn cynnwys: hyfforddiant, cinio bwffe.
- Bydd angen: bydd dillad dal dŵr ac esgidiau priodol i’w gwisgo yn yr awyr agored yn hanfodol
- Amodau a Thelerau:
- rhaid eich bod chi’n 18 oed neu’n hŷn i fynychu ein cyrsiau.
- Cliciwch yma am restr lawn o’r amodau a thelerau
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
Byddwch yn cael profiad ymarferol yn ystod gweithgareddau a fydd yn archwilio’r broses o greu tomenni compost a gwrychoedd marw.
Byddwn yn ystyried yr heriau amrywiol y mae ein tîm garddio yn eu hwynebu, gan archwilio pa wersi y gallwn eu dysgu sy’n berthnasol i gompostio a garddio gartref.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn:
- Dysgu am domwellt, gwrteithiau gwyrdd, gwrtaith dynol a mwy, gydag enghreifftiau o gwmpas safle CYDA.
- Archwilio iechyd pridd trwy lens microsgop.
- Archwilio pa system gompostio sydd fwyaf addas i’ch safleoedd chi a sut y mae pob system yn gweithredu ac yn cael ei chynnal.
- Darganfod pa ddeunyddiau sydd fwyaf addas, yr hyn i’w osgoi a sut i greu cynefin trwy ddatblygu compost a gwrychoedd marw.
Manylion y Tiwtor
Veronica Henry
Mae Veronica wedi bod yn Geidwad Gerddi CYDA er 2021. Gan ddwyn dull holistig tuag at arddio, mae angerdd Veronica ynghylch creu mannau llewyrchus a bioamrywiol yn yr awyr agored yn heintus, ac mae ei chyrsiau yn llawn cyfoeth o wybodaeth garddio tymhorol ac ymarferol.
Related events
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Carbon Am Ddim ym Mhowys
17th Rhagfyr 2024Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd: Tyrbinau Gwynt
11th Ionawr 2025Creu Dodrefn Paledi
8th Chwefror 2025Searching Availability...