Creu Dodrefn Paledi

Creu Dodrefn Paledi


Home » Creu Dodrefn Paledi

Trawsnewidiwch baledi gwastraff yn ddodrefn pwrpasol hyfryd ar gyfer eich cartref a’ch gardd.

Gweithdy ymarferol ar gyfer unrhyw un sydd am ddechrau uwchgylchu dodrefn. Bydd y tiwtor Dieter Brandstatter yn eich arwain drwy bob cam – o gael gafael ar eich paledi a chynllunio eich prosiect i farcio allan a defnyddio offer pŵer yn ddiogel.

Gwybodaeth allweddol

  • Hyd: un diwrnod
  • Amser: dechrau am 9yb a gorffen am 5:00yp
  • Cost: £125
  • Yn cynnwys: hyfforddiant, yr holl ddeunydd, cinio
  • Beth sydd ei angen arnoch: gan fod hwn yn gwrs hynod ymarferol, bydd angen i chi ddod ag esgidiau diogelwch gyda chi.

Telerau ac Amodau

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Mae’r cwrs hwn yn rhoi trosolwg o’r offer a’r technegau a ddefnyddir wrth dynnu paled yn ddarnau a’i uwchgylchu i greu rhywbeth newydd ac unigryw.

Mae’r gweithdy ymarferol cam wrth gam yn cwmpasu:

  • Cael gafael ar baledi
  • Tynnu paled yn ddarnau
  • Defnyddio’r paled cyfan gan adael cyn lleied o wastraff â phosib
  • Ffyrdd o gysylltu/uno planciau at ei gilydd
  • Marcio
  • Defnyddio offer llaw yn ddiogel
  • Sut i ddefnyddio offer pŵer yn ddiogel

Byddwch yn meithrin sgiliau ymarferol a phrofiad o ddeunyddiau, offer ac adeiladu wrth i chi fynd trwy’r camau o lunio darn o ddodrefn.

Cyflwyniad i’ch tiwtor

Dieter Brandstätter

Mae Dieter wedi gweithio yn CyDA am y 5 mlynedd diwethaf yn addysgu cyrsiau byr, yn gweithio’r rheilffordd halio ac yn creu cynnyrch ar gyfer y safle. Dyluniodd ac adeiladodd beiriant a reolir gan gyfrifiadur (sy’n gallu gweithio oddi ar bŵer yr haul) a thwnnel gwynt (i’w ddefnyddio yn yr ysgol i raddedigion).

Wedi’i hyfforddi yn wreiddiol mewn Gofannu Arian a Dylunio Cynnyrch, mae ganddo ddiddordeb mewn gwerth cynaliadwy deunyddiau, a’r profiad gofodol mewn adeiladau. Mae arbenigedd Dieter mewn pren a thriniaethau pren naturiol wedi’i arwain at Yakisugi, dull traddodiadol Siapaneaidd o gynnal a chadw pren, sydd i’w weld ar sawl un o’r arwyddion o gwmpas y safle.

Searching Availability...

Searching Availability...