Cyflwyniad i Reoli Coetiroedd mewn ffordd Gynaliadwy

Cyflwyniad i Reoli Coetiroedd mewn ffordd Gynaliadwy


Home » Cyflwyniad i Reoli Coetiroedd mewn ffordd Gynaliadwy

Bydd y cwrs undydd byr hwn yn archwilio nifer o’r ffactorau sylfaenol sy’n ymwneud â rheoli darn o goetir.

Mae’r cwrs hwn ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw un sy’n byw neu sy’n gweithio ym Mhowys!  Mae CYDA wedi sicrhau ychydig gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac mae wrth ei bodd i allu cynnig cyrsiau dethol i breswylwyr a busnesau Powys yn rhad ac am ddim.

Gwybodaeth Allweddol

  • Hyd:  un diwrnod
  • Dyddiad nesaf:  Dydd Mawrth 17 Rhagfyr
  • Amseroedd cychwyn a gorffen:  bydd yn cychwyn am 9:30yb ac yn gorffen am 5yp
  • Ffi:  £125
  • AM DDIM i bobl sy’n byw neu sy’n gweithio ym Mhowys
  • Bydd yn cynnwys:  hyfforddiant, cinio bwffe.
  • Bydd angen y canlynol arnoch:  mae dillad dal dŵr ac esgidiau priodol ar gyfer bod allan yn yr awyr agored yn hanfodol
  • Amodau a Thelerau:

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Cynlluniwyd y cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn rheoli coetiroedd ac ecoleg.  Mae hwn yn gwrs lefel mynediad sy’n llawn gwybodaeth ddiddorol a defnyddiol.  Nid oes gofyn i chi gael unrhyw wybodaeth neu brofiad blaenorol ym maes rheoli coetiroedd.

  • Archwilio cynefinoedd coetir CYDA.
  • Sut i asesu iechyd ecoleg y coetir a sut y gallwch ei gynorthwyo.
  • Deall offer rheoli coetir cyffredin.
  • Rhoi cynnig ar goedlannu, techneg rheoli coetir traddodiadol sy’n caniatáu i chi gynaeafu pren ac mewn nifer o goetiroedd Prydeinig, mae’n helpu i gynyddu bioamrywiaeth.
  • Echdynnu deunyddiau ar gyfer defnydd amrywiol megis siarcol, polion ffa, coed tân, rhaffau, deunydd ffensio ac ati.
  • Canllawiau iechyd a diogelwch a deall risg.
  • Deall manteision ehangach coetiroedd hygyrch.

Searching Availability...