Hyfforddiant Llythrennedd Carbon Am Ddim ar gyfer Busnesau ym Mhowys

Hyfforddiant Llythrennedd Carbon Am Ddim ar gyfer Busnesau ym Mhowys


Home » Hyfforddiant Llythrennedd Carbon Am Ddim ar gyfer Busnesau ym Mhowys

Cyfle i archwilio datrysiadau hinsawdd, llunio cynllun gweithredu ar eich cyfer chi a’ch busnes, a sicrhau achrediad Llythrennedd Carbon gyda’n cwrs ar-lein.

Datblygwyd y cwrs ar-lein hwn yn benodol ar gyfer y rhai sy’n gweithio i fusnesau ym Mhowys, a bydd yn ystyried gwyddor newid hinsawdd, effeithiau lleol a byd-eang a sut y bydd y rhain yn effeithio ar eu gwaith.

Gan fanteisio ar ein gwaith ymchwil Prydain di-garbon, byddwn yn ystyried amcanion carbon isel ac yn helpu i lunio cynllun gweithredu er mwyn dylanwadu ar eraill. Caiff eich allbwn o’r cwrs hwn ei werthuso gan y Prosiect Llythrennedd Carbon er mwyn i chi gael eich achredu yn bersonol yn Hyddysg mewn Carbon.

Beth yw Llythrennedd Carbon? Mae’r Prosiect Llythrennedd Carbon yn ei ddisgrifio fel ‘Ymwybyddiaeth o gostau carbon ac effeithiau gweithgareddau bob dydd a’r gallu a’r cymhelliant i leihau allyriadau, ar sail unigol, cymunedol a sefydliadol.’

Gwybodaeth allweddol

  • Hyd:  3 sesiwn 2 awr, 20 munud yr un
  • Dyddiad:  2, 9 ac 16 Hydref 2024, 9.30-11.50yb bob dydd
  • Lleoliad:  Ar-lein, cyfarfodydd Zoom
  • Bydd gofyn gwneud hyd at ddwy awr o waith annibynnol ychwanegol i sicrhau achrediad
  • Ffioedd:  AM DDIM i bobl sy’n byw neu sy’n gweithio ym Mhowys
  • Mae’n cynnwys:  Hyfforddiant, achrediad y Prosiect Llythrennedd Carbon a chymorth ad-hoc
  • Amodau a thelerau

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Mae prosiect Prydain Di-garbon CyDA yn cynnig y data caled a’r hyder gofynnol er mwyn delweddu dyfodol lle’r ydym wedi ymateb i alwadau newid hinsawdd. Mae’n helpu i leihau ofn a chamddealltwriaeth, gan gychwyn sgyrsiau newydd a chadarnhaol sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau.

Bydd y cwrs ar-lein hwn sydd wedi’i achredu gan y Prosiect Llythrennedd Carbon yn archwilio’r datrysiadau a gynigir gan weledigaeth pwynt terfyn Prydain Di-garbon. Gan fanteisio ar astudiaethau achos ac enghreifftiau go iawn, byddwn yn ystyried camau ymarferol i gyrraedd sero net o bersbectif busnes lleol.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn ymrwymo i ddau gam gweithredu lleihau carbon. Caiff y camau hyn eu gwerthuso gan y Prosiect Llythrennedd Carbon er mwyn i chi gael eich achredu fel rhywun Hyddysg mewn Carbon, sy’n ofyniad er mwyn hyfforddi eraill yn eich ardal neu’ch sector.

Mae’r hyfforddiant hwn yn addas i bawb sy’n gweithio gyda busnesau lleol – fel unigolion neu fel rhan o grwpiau, sefydliadau, rhwydweithiau ac ati. Ar draws y diwrnod, cynhelir sesiynau myfyrio a thrafod wedi’u hamserlennu, a sesiynau holi ac ateb.

Searching Availability...

A ydych chi’n chwilio am fwy o hyfforddiant di-garbon?

Mae ein cyrsiau Prydain Di-garbon: Byw ar-lein yn cynnwys amrediad o bynciau o ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni i ddietau a defnydd tir.  Dros y ddau ddiwrnod, byddwch yn cymryd rhan mewn gweithdai, trafodaethau a sesiynau myfyrio gyda chymysgedd amrywiol o fynychwyr ynghylch catalyddu gweithredu ar draws pob maes mewn cymdeithas.

Ariannir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda Cyngor Sir Powys.

 Powys Council Logo Growing Mid Wales