Hyfforddiant Llythrennedd Carbon Am Ddim gyda’r Hwyr ym Mhowys

Hyfforddiant Llythrennedd Carbon Am Ddim gyda’r Hwyr ym Mhowys


Home » Hyfforddiant Llythrennedd Carbon Am Ddim gyda’r Hwyr ym Mhowys

Cwrs llythrennedd carbon ar-lein am ddim i bobl sy’n byw neu sy’n gweithio ym Mhowys.

Cyfle i archwilio datrysiadau hinsawdd, llunio cynllun gweithredu ar eich cyfer chi a’ch cymuned neu’ch sefydliad, a sicrhau ardystiad Llythrennedd Carbon ar ein cwrs ar-lein a ariannir yn llawn.

Mae’r cwrs hwn ar gael am ddim i unigolion, grwpiau cymunedol, cynghorau tref a chymuned, mentrau cymdeithasol, sefydliadau a busnesau. Yr unig ofyniad yw eich bod yn byw neu’n gweithio ym Mhowys.

Bydd y cwrs ar-lein hwn yn ystyried gwyddor newid hinsawdd, effeithiau lleol a byd-eang a sut y bydd y rhain yn effeithio ar eu gwaith. Gan fanteisio ar ein gwaith ymchwil Prydain di-garbon, byddwn yn ystyried amcanion carbon isel ac yn llunio cynllun gweithredu er mwyn dylanwadu ar eraill. Caiff eich allbwn o’r cwrs hwn ei werthuso gan y Prosiect Llythrennedd Carbon er mwyn i chi gael eich ardystio yn Hyddysg mewn Carbon.

Beth yw Llythrennedd Carbon? Mae’r Prosiect Llythrennedd Carbon yn ei ddisgrifio fel ‘Ymwybyddiaeth o gostau carbon ac effeithiau gweithgareddau bob dydd a’r gallu a’r cymhelliant i leihau allyriadau, ar sail unigol, cymunedol a sefydliadol.’

Gwybodaeth allweddol

  • Hyd: tair sesiwn gyda’r hwyr (29 Hydref, 5 Tachwedd a 12 Tachwedd)
  • Amser: 6yp – 8.20yp
  • Lleoliad:  ar-lein
    • Gellir cynnig yr hyfforddiant am ddim hwn i’ch grŵp hefyd fel cwrs pwrpasol ar ddyddiad sy’n gyfleus i bawb.  Cysylltwch i drefnu
  • Bydd gofyn gwneud hyd at ddwy awr o waith annibynnol ychwanegol i sicrhau achrediad
  • Ffioedd:  AM DDIM
  • Mae’n cynnwys:  hyfforddiant, sesiynau holi ac ateb, deunyddiau cwrs ar-lein, achrediad y Prosiect Llythrennedd Carbon
  • Amodau a thelerau

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Mae prosiect Prydain Di-garbon CyDA yn cynnig y data caled a’r hyder gofynnol er mwyn delweddu dyfodol lle’r ydym wedi ymateb i alwadau newid hinsawdd.  Mae’n helpu i leihau ofn a chamddealltwriaeth, gan gychwyn sgyrsiau newydd a chadarnhaol sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau.

Bydd y cwrs ar-lein hwn sydd wedi’i achredu gan y Prosiect Llythrennedd Carbon yn archwilio’r datrysiadau a gynigir gan weledigaeth pwynt terfyn Prydain Di-garbon.  Gan fanteisio ar astudiaethau achos ac enghreifftiau go iawn, byddwn yn ystyried camau ymarferol i gyrraedd sero net o bersbectif cymunedol.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn ymrwymo i ddau gam gweithredu lleihau carbon;  un fel unigolyn ac un a fydd yn dylanwadu ar grŵp o unigolion.  Caiff y camau hyn eu gwerthuso gan y Prosiect Llythrennedd Carbon er mwyn i chi gael eich ardystiad Hyddysg mewn Carbon.

Ar draws y diwrnod, cynhelir sesiynau myfyrio a thrafod wedi’u hamserlennu, sesiynau holi ac ateb, cyfleoedd rhwydweithio ac egwyliau all-lein i gadw’r ffurf ar-lein yn ffres ac yn ddiddorol.

Searching Availability...

A ydych chi’n chwilio am fwy o hyfforddiant di-garbon?

Mae ein cyrsiau Prydain Di-garbon: Byw ar-lein yn cynnwys amrediad o bynciau o ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni i ddietau a defnydd tir.  Dros y ddau ddiwrnod, byddwch yn cymryd rhan mewn gweithdai, trafodaethau a sesiynau myfyrio gyda chymysgedd amrywiol o fynychwyr ynghylch catalyddu gweithredu ar draws pob maes mewn cymdeithas.

Ariannir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda Cyngor Sir Powys.

 Powys Council Logo Growing Mid Wales