Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Carbon Am Ddim ym Mhowys

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Carbon Am Ddim ym Mhowys


Home » Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Carbon Am Ddim ym Mhowys

Cyfle i archwilio datrysiadau hinsawdd, llunio cynllun gweithredu ar eich cyfer chi a’ch cymuned gyda’n cwrs Ymwybyddiaeth Carbon ar-lein.

Datblygwyd y cwrs ar-lein hwn yn benodol ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn cymunedau, a bydd yn ystyried gwyddor newid hinsawdd, effeithiau lleol a byd-eang ac archwilio effeithiau’r rhain ar ein cymunedau ac ar ein gwaith.

Gan fanteisio ar ein gwaith ymchwil Prydain di-garbon, byddwn yn ystyried amcanion carbon isel yn y cymunedau ac yn llunio cynllun gweithredu er mwyn dylanwadu ar eraill.

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Mae prosiect Prydain Di-garbon CyDA yn cynnig y data caled a’r hyder gofynnol er mwyn delweddu dyfodol lle’r ydym wedi ymateb i alwadau newid hinsawdd. Mae’n helpu i leihau ofn a chamddealltwriaeth, gan gychwyn sgyrsiau newydd a chadarnhaol sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau.
Gan fanteisio ar astudiaethau achos ac enghreifftiau go iawn, byddwn yn ystyried camau ymarferol i gyrraedd sero net o bersbectif cymunedol.

Mae’r hyfforddiant ar-lein hwn yn addas i bawb sy’n gweithio mewn cymunedau – fel unigolion neu fel rhan o grwpiau, sefydliadau, rhwydweithiau ac ati. Ar draws y diwrnod, cynhelir sesiynau myfyrio a thrafod wedi’u hamserlennu, sesiynau holi ac ateb, cyfleoedd rhwydweithio ac egwyliau all-lein i gadw’r ffurf ar-lein yn ffres ac yn ddiddorol.

Gwybodaeth allweddol

  • Hyd:  2 awr
  • Cynhelir y cwrs hwn ddwywaith:  19 a 26 Tachwedd 2024, 18:00 – 20:00 bob dydd
  • Lleoliad:  ar-lein
  • Ffioedd:  AM DDIM i bobl sy’n byw neu sy’n gweithio ym Mhowys
  • Mae’n cynnwys:  hyfforddiant, sesiynau holi ac ateb, deunyddiau cwrs ar-lein, achrediad y Prosiect Llythrennedd Carbon
  • Gellir cynnig yr hyfforddiant am ddim hwn hefyd i’ch grŵp fel cwrs pwrpasol ar ddyddiad sy’n gyfleus i bawb.  Cysylltwch i drefnu
  • Amodau a thelerau

Searching Availability...

A ydych chi’n chwilio am fwy o hyfforddiant di-garbon?

Mae ein cyrsiau Prydain Di-garbon: Byw ar-lein yn cynnwys amrediad o bynciau o ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni i ddietau a defnydd tir.  Dros y ddau ddiwrnod, byddwch yn cymryd rhan mewn gweithdai, trafodaethau a sesiynau myfyrio gyda chymysgedd amrywiol o fynychwyr ynghylch catalyddu gweithredu ar draws pob maes mewn cymdeithas.

Ariannir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda Cyngor Sir Powys.

 Powys Council Logo Growing Mid Wales