Lles Gwyllt – Creu mainc wladaidd

Lles Gwyllt – Creu mainc wladaidd


Home » Lles Gwyllt – Creu mainc wladaidd

Diwrnod allan hamddenol a bwriadus yng nghoed CYDA.

Byddwn yn archwilio ecoleg, gwaith pren gwyrdd, chwilota am ddeunyddiau ar gyfer prosiectau, a phopeth sydd ynghlwm â hynny yn ystod y diwrnod allan ymlaciol hwn yng nghoed CYDA.

Trwy gydol y diwrnod, byddwch yn cael dirnadaeth o’r ffordd y mae CYDA yn rheoli ein coetiroedd er mwyn helpu natur i ffynnu, byddwch yn archwilio sut i ddewis deunyddiau o bersbectif ecolegol ac ymarferol, a byddwch yn cael profiad ymarferol o dechnegau gwaith coed gwyrdd wrth i chi greu mainc wladaidd.

Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio offer llaw traddodiadol gan gynnwys caseg lyfnu a thurn polyn i wneud coesau a sedd y fainc.

Gwybodaeth Allweddol

  • Hyd:  un diwrnod:
  • Amseroedd cychwyn a gorffen:  bydd yn cychwyn am 10am ac yn gorffen am 5:00pm
  • Ffi:  £125
  • Bydd yn cynnwys:  hyfforddiant, yr holl ddeunyddiau, cinio
  • Bydd angen esgidiau a dillad priodol arnoch er mwyn treulio diwrnod allan yng ngerddi CYDA.

Amodau a Thelerau:

Searching Availability...