
Gyda ffocws pennodol ar gefnogi bywyd adar, bydd y cwrs byr undydd hwn yn archwilio’r elfennau sylfaenol o sut i gefnogi bywyd gwyllt yn eich gardd neu ofod awyr agored – o ddewis y planhigion cywir, cynllunio, cynnal a chadw a thu hwnt.
Gyda cholled bioamrywiaeth yn cynyddu ar draws y byd, gall bob darn o ofod gwyrdd wneud gwahaniaeth. Dewch i dreulio diwrnod yn paratoi’r gerddi yn CyDA ar gyfer y tymor o’n blaen wrth ddysgu sut i greu hafan ar gyfer bywyd gwyllt gyda garddwr CyDA.
Cyfle perffaith i unrhyw un sy’n awyddus i greu eu gardd neu ofod awyr agored yn amgylchedd ffyniannus a chyfeillgar ar gyfer bywyd gwyllt. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol.
Gwybodaeth Allweddol
- Hyd: un diwrnod
- Dyddiad nesaf: 24 Mai
- Amseroedd cychwyn a gorffen: bydd yn cychwyn am 9:30yb ac yn gorffen am 5yp
- Ffi: £125
- Bydd yn cynnwys: hyfforddiant, cinio bwffe.
- Bydd angen: bydd dillad dal dŵr ac esgidiau priodol i’w gwisgo yn yr awyr agored yn hanfodol
- Amodau a Thelerau:
- rhaid eich bod chi’n 18 oed neu’n hŷn i fynychu ein cyrsiau.
- Cliciwch yma am restr lawn o’r amodau a thelerau
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
Darganfyddwch hanfodion paratoi pridd, chwynnu detholus, a dewis planhigion addas ar gyfer denu pryfed peillio ac adar.
Byddwch yn meithrin y sgiliau ymarferol i gynllunio a gweithredu gardd sy’n darparu bwyd, cysgod, a deunyddiau nythu, gan gefnogi amrywiaeth gyfoethog o adar, pryfed ac ymwelwyr gardd arall.
Manylion y Tiwtor
Veronica Henry
Mae Veronica wedi bod yn Geidwad Gerddi CYDA er 2021. Gan ddwyn dull holistig tuag at arddio, mae angerdd Veronica ynghylch creu mannau llewyrchus a bioamrywiol yn yr awyr agored yn heintus, ac mae ei chyrsiau yn llawn cyfoeth o wybodaeth garddio tymhorol ac ymarferol.
Related events


Prydain Ddi-Garbon: Llythrennedd Carbon i Gymunedau
13th Mai 2025
Prydain Di-garbon: Llythrennedd Carbon Arlein ar gyfer Awdurdodau Lleol
10th Mehefin 2025
Prydain Ddi-Garbon: Llythrennedd Carbon i Gymunedau
17th Mehefin 2025Searching Availability...
