Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd: PV Solar

Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd: PV Solar


Home » Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd: PV Solar

Ailfeddwl darpariaeth ynni i aelwydydd – archwilio’r cyfleoedd y mae PV solar yn eu cynnig i aelwydydd.

Paneli solar:  ble ddylech chi eu rhoi nhw?  Faint o bŵer y byddwch yn ei gael?  Faint o arian y byddwch yn ei arbed?  Beth fydd eich gostyngiad o ran allyriadau?  Nod y cwrs undydd hwn yw ateb y cwestiynau hyn a mwy trwy gyfrwng cyfres o ddarlithoedd a sesiynau ymarferol.

Gwybodaeth allweddol

Parhau: un diwrnod
Dyddiad nesaf: dydd Sadwrn 29 Mehefin 2024
Amserau cychwyn a gorffen: cychwyn am 9.30y.b.a gorffen am 4.00y.p.
Ffi: £125
Yn cynnwys: hyfforddiant , cinio bwffe
Beth sydd ei angen arnoch: argymhellir dillad gwrth-ddŵr
Telerau ac Amodau:
Rhaid bod yn 18 oed neu’n hŷn i fynychu ein cyrsiau.
Am restr lawn o’r telerau ac amodau cliciwch yma

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Bydd y cwrs hwn yn cynnig y gallu i chi benderfynu a yw paneli solar yn addas i’ch anghenion, datblygu dadansoddiad cost a budd a mesur y gostyngiadau o ran allyriadau.

Bydd yn cynnig trosolwg o’r gwahanol baneli PV sydd ar gael yn fasnachol, a sut i asesu eu heffeithlonrwydd.  Byddwch yn dysgu sut i gynnal dadansoddiad adnodd ffotofoltäig solar, gan gyfrifo’r allbwn blynyddol tebygol ar gyfer safle penodedig.

Bydd eich tiwtor arbenigol, Alan, yn eich tywys trwy’r ffordd o ddewis y lleoliad a’r cyfeiriad gorau, maint y system, a dulliau o gysylltu paneli PV solar.  Yn ogystal, byddwch yn cael y cyfle i weld a thrafod y paneli PV solar niferus ar safle CYDA.

Mae gwybodaeth sylfaenol o MS Excel (neu raglen gyfatebol) yn ddymunol ar gyfer y cwrs hwn.

Cyrsiau Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi

Mae’r cwrs hwn yn rhan o gyfres sy’n archwilio technolegau ynni adnewyddadwy ar gyfer cartrefi. Gellir cymryd pob cwrs yn unigol neu fel cyfres, a byddant yn darparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i roi gwahanol dechnolegau adnewyddadwy ar waith yn eich cartref.

Cyfarfod â’ch tiwtor

Mae Alan yn Beiriannydd Ynni Siartredig ac yn ddarlithydd ar ein cyrsiau ôl-raddedig yma yn CyDA. Mae ei ymchwil yn amrywio o fodelu rhifiadol systemau ac adnoddau ynni adnewyddadwy yn Ewrop, i ddatblygu polisi a strategaeth ynni cynaliadwy rhyngwladol yn ardaloedd ôl-wrthdaro/ôl-drychineb yn Ne Ddwyrain Asia.

Searching Availability...