Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd: Tyrbinau Gwynt

Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd: Tyrbinau Gwynt


Home » Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd: Tyrbinau Gwynt

Ailfeddwl darpariaeth ynni i aelwydydd – golwg fanwl ar dyrbinau gwynt ar raddfa fach.

Os ydych chi’n ystyried gosod tyrbinau gwynt gartref, yn eich cymuned neu ar gyfer eich busnes, bydd y cwrs undydd hwn yn cynnig dealltwriaeth fanwl i chi o’r ffactorau y bydd angen i chi eu hystyried.  Trwy gyfrwng cymysgedd o ddarlithoedd a sesiynau ymarferol, bydd y cwrs yn cynnwys dewis tyrbin gwynt, ei weithrediad a’i osod.

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Bydd y cwrs hwn yn cynnig y gallu i chi benderfynu a yw tyrbin gwynt yn addas i’ch anghenion, datblygu dadansoddiad cost a budd a mesur y gostyngiadau posibl o ran allyriadau.

Byddwn yn archwilio dulliau o gasglu data am wynt, a’i ddadansoddi, gan fesur maint yr adnodd sydd ar gael ar safle.  Yna, trwy gyfrwng amrediad o ddarlithoedd a sesiynau ymarferol, byddwn yn ystyried maint tyrbinau a’u dewis, eu safle, eu gosod a’u cysylltu.  Yn ogystal, bydd y cwrs yn ystyried gwybodaeth sylfaenol am ffiseg gweithredol tyrbinau gwynt, gan ganolbwyntio ar beiriannau DC 12/24/48V.

Cyrsiau Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi

Mae’r cwrs hwn yn rhan o gyfres sy’n archwilio technolegau ynni adnewyddadwy ar gyfer cartrefi. Gellir cymryd pob cwrs yn unigol neu fel cyfres, a byddant yn darparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i roi gwahanol dechnolegau adnewyddadwy ar waith yn eich cartref.

  • Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi: Tyrbinau Gwynt – Dydd Sadwrn 13 Ionawr 2024
  • Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi: Pympiau Gwres – Dydd Sadwrn 13 Ebrill 2024
  • Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi: Solar Ffotofoltaidd – Dydd Sadwrn 18 Mai 2024
  • Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi: Dŵr Twym Solar – Dydd Sadwrn 29 Mehefin 2024

Cyfarfod â’ch tiwtor

Mae Alan yn Beiriannydd Ynni Siartredig ac yn ddarlithydd ar ein cyrsiau ôl-raddedig yma yn CyDA. Mae ei ymchwil yn amrywio o fodelu rhifiadol systemau ac adnoddau ynni adnewyddadwy yn Ewrop, i ddatblygu polisi a strategaeth ynni cynaliadwy rhyngwladol yn ardaloedd ôl-wrthdaro/ôl-drychineb yn Ne Ddwyrain Asia.

Searching Availability...