Tymor newydd yn y Ganolfan: CyDA yn cynnal diwrnod agored i’r gymuned gyda sesiynau galw heibio ar gynlluniau’r dyfodol

Tymor newydd yn y Ganolfan: CyDA yn cynnal diwrnod agored i’r gymuned gyda sesiynau galw heibio ar gynlluniau’r dyfodol


Home » Tymor newydd yn y Ganolfan: CyDA yn cynnal diwrnod agored i’r gymuned gyda sesiynau galw heibio ar gynlluniau’r dyfodol

Ddydd Sadwrn, 2 Ebrill, bydd CyDA yn cynnal diwrnod agored y gwanwyn i’r gymuned leol — yn ogystal â sesiynau galw heibio rhyngweithiol i drafod cynlluniau’r Ganolfan ar gyfer y dyfodol.

O weithdai archwilio pyllau a phlannu yn y gwanwyn i weithgareddau sbotio natur hunanarweiniol o amgylch y safle — bydd ymwelwyr yn mwynhau llu o weithgareddau tymhorol sy’n gyfeillgar i deuluoedd. Byddan nhw hefyd yn cael y cyfle i rannu eu barn ar ein cynlluniau a gyhoeddwyd yn ddiweddar i greu profiad yr ymwelydd a chanolfan sgiliau gwyrdd o’r radd flaenaf — drwy gyfres o sesiynau rhyngweithiol gyda staff CyDA drwy gydol y dydd.

“Gyda’r gwanwyn wedi cyrraedd, rydyn ni’n gyffrous nid yn unig i groesawu wynebau newydd a chyfarwydd i’r Ganolfan i fwynhau diwrnod allan yn CyDA — ond i glywed adborth amhrisiadwy gan y rhai sydd bwysicaf wrth i ni symud i gam datblygu’r prosiect.” – Cyd-Brif Weithredwr Dros Dro CyDA, Eileen Kinsman

I gael gwybod mwy am y diwrnod agored a’r digwyddiadau sydd ar y gweill, ewch i: cy.cat.org.uk/cynlluniau/

A rhannwch eich barn ar gynlluniau CyDA ar gyfer y dyfodol drwy gymryd rhan yn ein harolwg.

Diwrnod Agored i’r Gymuned

Croesewch y tymor newydd gyda llu o weithgareddau tymhorol, sy’n gyfeillgar i deuluoedd.

COFRESTRU AR E-BOST

Gallwch gael y wybodaeth am yr holl weithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf drwy gofrestru ar gyfer ein e-byst a'n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech chi gymryd rhan a chefnogi ein gwaith, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu fel aelod CyDA.