Gerddi a Phlanhigion

Gerddi a Phlanhigion

Home » Dewch i CyDA » Grwpiau a Dysgu » Gerddi a Phlanhigion

Nid llefydd prydferth yn unig yw gerddi CyDA. Mae ein dull o arddio yn bwysig iawn i ni. Drwy weithio gyda natur gallwn greu gerddi hyfryd a chynhyrchiol sy’n cael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd a’r amgylchedd.

Gyda’i gilydd mae gerddi yn y DU yn gorchuddio mwy o dir na gwarchodfeydd natur; felly, gall y modd yr ydym yn garddio gael dylanwad mawr iawn.

Gofalir am erddi CyDA gan ddefnyddio technegau ac egwyddorion organig. Maent yn enghraifft o sut y gellir creu llefydd hardd, helpu’r amgylceddh a dal i gynhyrchu ffrwythau a llysiau blasus.

Ein dulliau gweithredu

Yn hytrach nag edrych ar yr ardd fel rhywbeth sydd angen ei dofi, ceisiwn weithio gyda’r broses naturiol i greu ecosystem iach a chynhyrchiol.

Er enghraifft, rydym yn aml yn dewis gadael gweddillion planhigion marw a chwyn yn y gwelyau dros y gaeaf yn hytrach na thacluso popeth yn dwt. Mae hyn yn diogelu’r pridd rhag yr elfennau ac yn lleihau trwytholchiad nitradau. Mae hefyd yn rhoi cysgod i bryfed buddiol dros y gaeaf ac yn hybu rheolaeth pla naturiol. Golyga hyn bod ein gerddi ar adegau yn edrych ychydig yn anniben!

Mae blodau unflwydd a lluosflwydd yn llenwi’r gerddi â digonedd o liw a pheraroglau, ond maent hefyd yn denu peillwyr fel y gwenyn, a thrychfilod buddiol eraill megis pryfed hofran sy’n lladd pryfed dinistriol.

Ein taith ni

Pan gychwynnodd CyDA roedd bron yr holl dir yma wedi’i orchuddio â gwastraff llechi. Ychydig iawn o bridd oedd yma, felly bu’n rhaid i’r preswylwyr a’r gwirfoddolwyr gwreiddiol ddo â phridd a chompost i mewn i sefydlu’r gerddi cyntaf ar y safle.

CAT site in the 1970s

Nawr, ar 50 mlynedd o reolaeth gofalus, a sawl trwch o gompost, mae CyDA yn gartref i rai o’r gerddi organig hynaf yn y wlad.

Profwch yn cynnyrch

Mae llawer o’r ffrwythau a’r llysiau a dyfir ar hyd cylchdaith yr ymwelwyr ac yn ein cae dwy erw yn cael eu troi’n brydau blasus gan ein cogyddion medrus yn ein caffi llysieuol.

Mwynhewch salad blasus, llysiau gwyrdd tyner, corbys llawn protein a hyd yn oed cacen corbwmpenni, y cyfan yn cynnwys cynnyrch ffres a dyfir ar safle CyDA.

Beth sy’n cael ei dyfu

Rydym yn cynhyrchu amrywiaeth eang o lysiau tymhorol sy’n newid yn gyson, a diolch i’r polydwneli , gallwn dyfu cnydau rownd y flwyddyn.

Felly, gan ddibynnu pryd fyddwch yn dod, efallai y cewch gyfle i weld (a blasu os ewch i’r caffi) pob math o gynnyrch, o afalau, eirin gwlanog, grawnwin a ffigys i gêl, bresych, pwmpenni, pupurau a thomatos.

growing lettuce in the CAT organic gardens
Tyfu letys yng ngerddi organig CyDA

Y Gerddi

Wrth i chi grwydro o gwmpas fe welwch nifer o wahanol erddi arddangos sy’n dangos gwahanol agweddau ar fyw yn gynaliadwy, gyda chynlluniau, technegau a dulliau sy’n ddefnyddiol mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd.

Gardd y Cartref Cynaliadwy

Dyluniwyd yr ardd faestrefol hon fel gardd ecolegol hawdd ei chynnal sy’n helpu preswylydd dychmygol y Cartref Cynaliadwy i fyw bywyd carbon isel.

display showcasing energy efficiency in the home
Cartref cynaliadwy – arddangosfa’n dangos effeithlonrwydd ynni yn y cartref.

Yr Ardd Gynwysyddion

Os ydych yn brin o le, heb lawer o bridd, neu os ydych mewn llety dros dro, dewch i weld sut y gallai gardd gynwysyddion weithio i chi.

Y Polydwnnel Mawr

Mae’r polydwnnel mawr yn lle da i ymweld ag ef, ac mae’n ein helpu i dyfu amrywiaeth eang o gnydau a fyddai’n anodd eu tyfu yn yr awyr agored, gan gynnwys ffigys, gwrdiau a phupurau.

Yr Ardd Gofal Pridd

Mwy na jyst baw!  Dewch i weld rhai o’r technegau a ddefnyddiwn i wella ffrwythlondeb y pridd a helpu i adeiladu gerddi iach.

Gardd y Goedwig

Gan ddynwared prosesau a geir mewn coedwigoedd, dyluniwyd yr ardd hon fel bod y planhigion sydd ynddi yn cydweithio fel ecosystem. Mae hefyd yn cynhyrchu peth bwyd.

Y Polydwnnel Bach

Mae’r polydwnnel hwn yn gweithio’n galed iawn ac yn trawsnewid gyda’r tymhorau. Yn y gwanwyn lleolir y magwrfeydd a’r blanhigfa yma, ac yn ystod yr haf, hwn yw prif ardal y safle o ran tyfu llysiau tyner megis tomatos, ciwcymerau a tshilis.

Y Rhandiroedd

Dysgwch am gylchdroi cnydau, pryfed buddiol a chyforwelyau yn yr ardal dyfu gynhyrchiol hon.