Yr argyfwng hinsawdd ar ein harfordir

Yr argyfwng hinsawdd ar ein harfordir


Home » Yr argyfwng hinsawdd ar ein harfordir

Hannah Genders Boyd sy’n cyflwyno’r prosiect amlddisgyblaethol CHERISH, sydd â’r nod o hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effeithiau newid yn yr hinsawdd ar dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog arfordiroedd Cymru ac Iwerddon.

Gwaith cloddio archeolegol a gefnogir gan CHERISH ar guldir sy’n erydu yng nghaer pentir Oes Haearn Caerfai, Sir Benfro.
Gwaith cloddio archeolegol a gefnogir gan CHERISH ar guldir sy’n erydu yng nghaer pentir Oes Haearn Caerfai, Sir Benfro.

Fel y gwyddom, mae’r hinsawdd byd-eang yn newid. Mae tymereddau byd-eang wedi codi mwy nag 1˚C ers 1850, ac mae hynny wedi cael effeithiau amlwg ar ein planed. Mae rhewlifau’n toddi’n gyflym, ac mae lefelau cyfartalog y môr wedi codi 16cm rhwng 1902 a 2015.

Yn y DU ac Iwerddon, mi allwn ddisgwyl gaeafau cynhesach a gwlypach a hafau poethach a sychach. Mi all digwyddiadau tywydd eithafol, fel glawiadau trwm, sychder a stormydd ddigwydd yn amlach.

Bydd y newidiadau a ragwelir yn cael amryw o effeithiau ar ein treftadaeth arfordirol, gan gynnwys erydu arfordirol a difrod i adeiladau o ganlyniad i ymchwydd stormydd, llifogydd a thirlithriadau yn ystod cyfnodau o lawiad uchel, a risg gynyddol o ansefydlogrwydd ac wynebau clogwyni’n cwympo wrth iddynt sychu yn ystod ein hafau poeth a sych.

Amcanestyniadau hinsawdd a threftadaeth arfordirol

Bydd y newid a ragwelir yn yr hinsawdd yn cael amryw o effeithiau ar ein treftadaeth arfordirol, gan gynnwys:

  • Tymereddau cynhesach yn fyd-eang a fydd yn arwain at gynnydd yn lefel y môr, a fydd yn effeithio ar bob agwedd ar dreftadaeth arfordirol o ganlyniad i lifogydd ac ymchwydd stormydd.
  • Cynnydd yn nhymheredd y môr a fydd yn dod â rhywogaethau a phlâu morol newydd a fydd yn effeithio ar dreftadaeth danddwr a rhynglanw.
  • Gall hafau poethach, sychach arwain ar sychu wynebau clogwyni a fydd mewn perygl o ansefydlogi a chwympo gan effeithio ar safleoedd treftadaeth ar yr arfordir.

Fodd bynnag, gallant hefyd arwain at ddarganfod safleoedd treftadaeth newydd sy’n weladwy fel marciau tir sych neu farciau cnydau.

  • Gallai gaeafau cynhesach, gwlypach achosi i’r tir ddirlenwi, a fyddai’n cynyddu’r perygl o lifogydd, tirlithriadau ac erydu mewn safleoedd treftadaeth.
  • Gallai tywydd mwy eithafol yn amlach greu moroedd tyrfol a fyddai’n niweidio treftadaeth ar wely’r môr a’r blaendraeth; achosi erydu a cholli ymyl yr arfordir drwy waith y tonnau; ac achosi niwed strwythurol i adeiladau.

Prosiect CHERISH

Yr haf yma, bydd arddangosfa deithiol yn CAT yn tynnu sylw at y materion hyn a’u heffaith, a bydd yn edrych ar waith CHERISH, prosiect chwe blynedd a ariannir gan yr UE sy’n ceisio hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effeithiau newid yn yr hinsawdd ar dreftadaeth arfordirol Cymru ac Iwerddon yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol agos.

Mae CHERISH yn acronym o ‘climate, heritage and environments of reefs, islands and headlands’. Mae’r prosiect traws-ddisgyblaeth yn dwyn ynghyd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru; y Discovery Programme, Iwerddon; Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth; a Geological Survey Ireland, ac fe’i gwnaed yn bosibl diolch i €4.9 miliwn o gyllid yr UE drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru. Dechreuodd y prosiect ym mis Ionawr 2017 a bydd yn para tan fis Mehefin 2023.

Golwg newydd ar ein gorffennol a’n dyfodol

Mae CHERISH yn cysylltu tir a môr, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau a dulliau i astudio rhai o leoliadau arfordirol mwyaf eiconig Cymru ac Iwerddon. Mae’r technegau hyn yn amrywio o sganio laser daearol ac awyr, arolygon geoffisegol a mapio gwely’r môr, drwy samplo paleoamgylcheddol, cloddio a, monitro llongddrylliadau.

Mae data a gynhyrchwyd gan y prosiect wedi arwain at ddealltwriaeth newydd o sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar safleoedd penodol ar arfordiroedd Cymru ac Iwerddon. Er enghraifft, ffactor allweddol sydd wrth wraidd yr erydu arfordirol a welir ym mryngaer Dinas Dinlle yng Ngwynedd yw glawiad trymach a niferoedd cynyddol o ddigwyddiadau tywydd eithafol (gweler y blwch drosodd), a thywydd mwy stormus a niferoedd cynyddol o ddigwyddiadau tywydd eithafol yw’r perygl mwyaf hefyd i gaer Dunbeg yn Swydd Kerry.

Mae deall sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar y safleoedd hyn, a chreu data gwaelodlin i fonitro yn y dyfodol, yn bwysig i wybod sut i reoli ein treftadaeth. Mae angen inni wybod pa wybodaeth sy’n cael ei cholli, a faint o amser sydd gan wahanol safleoedd ar ôl. Mae cofnodi safleoedd, er enghraifft drwy sganio laser neu ffotogrametri , yn creu cofnod a fydd ar gael i ymchwilwyr y dyfodol. Mae hyn yn arbennig o bwysig pe bai safle’n profi colled drychinebus, a all ddigwydd yn ystod digwyddiad tywydd eithafol.

Mae cadw gwybodaeth archeolegol yn elfen bwysig o’n cyd-ymateb i’r argyfwng hinsawdd wrth inni wynebu dyfodol ansicr, lle bydd ein cymdeithas yn wynebu heriau newydd na allwn eu rhagweld. Mae Treftadaeth Hinsawdd yn ddisgyblaeth groestoriadol sy’n cynnwys archeolegwyr, daearyddwyr, gwyddonwyr hinsawdd ac archifyddion. Mae wedi’i ddisgrifio fel “pacio cês diwylliannol”: yn wyneb newid a dinistr, beth ddylem ei achub? Nid yw hyn yn golygu gwarchod safleoedd drwy ddefnyddio ymyriadau ffisegol trwsgl – mae’n golygu casglu gwybodaeth tra mae’r cyfle ar gael, a defnyddio’r wybodaeth honno’n effeithiol.

A map illustrating the CHERISH project study sites.
A map illustrating the CHERISH project study sites.

Ymchwil Balaeoamgylcheddol

Elfen bwysig arall o’r ymchwil CHERISH oedd cael persbectif tymor hir ar newid yn yr hinsawdd drwy ddefnyddio ymchwil balaeoamgylcheddol.

Mae gwybodaeth am natur, amseru a chyfraddau newid amgylcheddol yn y gorffennol yn rhoi persbectif tymor hir i ddeall effeithiau newid yn yr hinsawdd yn awr ac yn y dyfodol. Mae dadansoddiadau ffisegol, cemegol a biolegol o archifau gwaddodol yn ein helpu i greu darlun o amrywiadau hinsoddol rhanbarthol a newid amgylcheddol lleol.

Agwedd bwysig ar ymchwil balaeoamgylcheddol yw’r gallu i wybod beth yn union oedd amseriad newid hinsoddol mewn cofnod gwaddodol, neu oed arteffact neu nodwedd archeolegol. Mae CHERISH yn defnyddio dwy dechneg wahanol yn gyson i gael fframwaith dyddio ar gyfer dilyniannau gwaddodol ac ymchwiliadau archeolegol: dyddio radiocarbon a dyddio ymoleuedd. Mae cyfuno’r dulliau hyn yn golygu y gallwn ddyddio amrywiaeth ehangach o fathau a chyd-destunau samplau. Lle gallwn ddefnyddio’r ddwy dechneg, bydd hyn yn gyfle gwerthfawr i draws-ddilysu amcangyfrifon o oed.

Mae’r prosiect CHERISH yn canolbwyntio ar ddilyniannau gwaddodion sydd â’r potensial i gynnwys cofnodion gweithgarwch stormydd y gorffennol, sy’n mynd yn ôl filoedd o flynyddoedd, fel mawnogydd arfordirol, lagwnau ôl-fariau a systemau twyni tywod. Cafwyd samplau o’r rhain drwy gymryd craidd mewn safleoedd ymchwil yng Nghymru ac Iwerddon.

Mae deall dyddiadau stormydd y gorffennol, newidiadau i lefelau’r môr, newidiadau i’r ecosystem, twf coetiroedd neu fawndiroedd, twf neu pan adawyd anheddau, yn ein galluogi i greu darlun o ryngweithio pobl a’r amgylchedd dros amser. Mae addasu’r amgylchedd, ac addasu i newid amgylcheddol wedi bod yn rhan o fywydau cymunedau arfordirol am filoedd o flynyddoedd. Wrth inni wynebu dyfodol o newid sydyn, sut allwn ni barhau i ymateb ac addasu? Pa wersi ar gyfer y dyfodol sydd wedi’u claddu o dan ein harfordiroedd bregus?

Yr Arddangosfa

Gellir gweld arddangosfa CHERISH yn CAT rhwng 9 Mai a 18 Mehefin 2023. Bydd data gweledol o’r prosiect i’w gweld, gan gynnwys delweddau lidar, data sganiau laser a lluniau a dynnwyd gan ddronau. Mae’r arddangosfa hefyd yn dangos sut mae CHERISH wedi defnyddio celf i gyfleu ei wyddoniaeth, mae barddoniaeth Gymraeg, gan y bardd a’r daearyddwr Hywel Griffiths, a chelf gan yr artistiaid o’r Canolbarth Julian Ruddock a Pete Monaghan, sydd ill dau wedi bod yn dehongli’r canfyddiadau gwyddonol yn eu ffordd unigryw eu hunain i greu gweithiau dramatig a phryfoclyd.

Am yr awdur

Mae Hannah Genders Boyd yn archeolegydd ac yn weithiwr Treftadaeth Hinsawdd proffesiynol gyda chefndir mewn ymchwil balaeoamgylcheddol. Ymunodd â thîm CHERISH yn 2022 i weithio â setiau data a gasglwyd yn ystod pum mlynedd cyntaf y prosiect. Mae ei rôl yn awr yn canolbwyntio ar arolygu, prosesu data, ymgysylltu â’r cyhoedd ac allgymorth.
http://cherishproject.eu/

COFRESTRU AR E-BOST

Gallwch gael y wybodaeth am yr holl weithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf drwy gofrestru ar gyfer ein e-byst a'n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech chi gymryd rhan a chefnogi ein gwaith, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu fel aelod CyDA.