Mudiadau a Grwpiau Cymunedol

Home » Dewch i CyDA » Grwpiau a Dysgu » Mudiadau a Grwpiau Cymunedol

Sut all cymunedau gymryd y camau nesaf ar eu taith i drawsnewid cyfiawn, gan ymgysylltu mewn ffordd effeithiol â gweithgarwch trawsnewid ehangach a gweithredu gwersi ein hymchwil Prydain Di-garbon ar y lefel leol?

Trwy gyfrwng gwybodaeth ac arbenigedd CyDA ynghylch hyfforddiant, mae grwpiau cymunedol, busnesau, awdurdodau lleol a grwpiau ffydd yn meithrin ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ddyfnach ac yn creu datrysiadau priodol i ddelio â’r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol yn ystod eu hymweliadau grŵp â CyDA.

Mae ein tiwtoriaid gwybodus a phrofiadol yn cynnig amrediad o deithiau, anerchiadau a gweithdai, sy’n ceisio helpu eich grwpiau trwy gyfrwng proses ysbrydoledig o ddysgu ac archwilio.

ZCB Staff

Hyfforddiant Prydain Di-garbon, Gweithdai, Hwyluso a Hyfforddiant Llythrennedd Carbon

Mae’r tîm Prydain Di-Garbon yn CyDA yn cynnig ystod eang o wasanaethau hyfforddiant ar gyfer grwpiau sy’n dymuno cymryd camau effeithiol yng nghyd-destun yr argyfyngau hinsawdd ac ecolegol.  Gan fanteisio ar 50 mlynedd yDA o arloesi, gwaith ymchwil ac addysg, ein hadroddiad pwysig ‘Rising to the Climate Emergency’ (2019) a’n gwaith helaeth gyda sefydliadau ar draws y wlad, gallwn weithio gyda chi er mwyn helpu eich mudiad neu’ch grŵp cymunedol i gymryd y camau nesaf.

Mae CyDA hefyd yn ddarparwr blaenllaw hyfforddiant Llythrennedd Carbon, ac mae gennym amrywiaeth o gyrsiau unigryw wedi’u hachredu gan y Prosiect Llythrennedd Carbon.  Gall y rhaglenni hyfforddiant hyn fod yn rhan hanfodol o godi ymwybyddiaeth gyda’ch mudiad ac ymhlith y gymuned ehangach, ac wrth greu diwylliant carbon isel sy’n ymgysylltu’n llawn gyda ac sy’n barod ar gyfer trawsnewid effeithiol.

Mae’r hyn a gynigir yn cynnwys gweithdai strategaeth pwrpasol, hwyluso, diwrnodau meithrin tîm a mwy.

Golygfa banoramig yn edrych i lawr ar CAT

BYD O GYNALIADWYEDD

Bioamrywiaeth sy’n ffynnu, gerddi prydferth, adeiladau gwyrdd arbrofol, arddangosiadau ynni adnewyddadwy a mwy – gallwch ddarganfod yr hyn sy’n gwneud safle CYDA yng Nghanolbarth Cymru yn lle mor arbennig.

Hyfforddiant Llythrennedd Carbon Am Ddim ym Mhowys

Hyfforddiant Llythrennedd Carbon Am Ddim i bobl sy’n byw neu sy’n gweithio ym Mhowys.

Cyfle i archwilio datrysiadau hinsawdd, llunio cynllun gweithredu ar eich cyfer chi a’ch cymuned neu’ch sefydliad, a sicrhau ardystiad Llythrennedd Carbon.

Pobl ar alwad cynadledda yn dal arwyddion am newid hinsawdd

YN CYDA NEU O BELL

Yn ogystal â chroesawu grwpiau i’n cartref yng Nghanolbarth Cymru, gallwn ddarparu hyfforddiant undydd neu dros sawl diwrnod ar-lein i fodloni’ch gofynion. Mae rhai grwpiau yn dewis cynnig hybrid dros sawl diwrnod!

Ymweliadau Corfforaethol

P’un ai ydych am archebu diwrnod cwrdd i ffwrdd i dîm, gweithgareddau adeiladu tîm neu ddigwyddiad cymelliadol, mae gan CYDA lawer i’w gynnig.
sheppard theatre

Cyfleusterau Cynadledda

Mae adeilad WISE CyDA yn lleoliad gwirioneddol gynaliadwy yng nghanol Cymru gyda theatr ddarlithio â seddi rhenciog ar gyfer hyd at 130 o gynrychiolwyr a 5 lleoliad ymneilltuo.
DYSGU MWY
Gwely a Brecwast

Llety

Mae gan CyDA 24 ystafell wely en-suite yn adeilad WISE, cyfleuster eco arobryn a ddyluniwyd yn gelfydd.
DYSGU MWY