Adeiladu Tŷ Draenog

Adeiladu Tŷ Draenog


Home » Gweithgareddau i’r Teulu » Adeiladu Tŷ Draenog

Adeiladwch gartref i ddraenog yn eich gardd a helpu i gynnal y creaduriaid pigog a chiwt hyn.

Mae draenogod yn prinhau ledled y DU, yn enwedig yn eu cynefinoedd naturiol yng nghefn gwlad. Mae ein cyfeillion bach pigog wedi symud i ardaloedd trefol i ymgartrefi, felly trwy greu blwch draenog yn eich gardd efallai y gwelwch un o’r creaduriaid nos swil hyn a byddwch yn eu helpu pan maent fwyaf o’i angen.

Bydd Angen

  • Oedolyn i helpu
  • Morthwyl, llif a hoelion
  • 2 golfach metel
  • Pridd
  • Dail sych
  • Gwellt neu borfa sych
  • Papurau newydd
  • Dalen bolythen
  • Byrddau o bren haenog FSC 20mm heb ei drin (bedwen yn ddelfrydol) wedi eu torri i’r meintiau a roddir
  • Llecyn tawel, cysgodol
  • Mynediad i’ch gardd ar gyfer draenogod

hedgehog house diagram

Adeiladu Tŷ Draenog – Cam wrth gam

Cam 1

Torrwch y pren i’r meintiau a ddangosir (efallai bydd angen gofyn i oedolyn am help i wneud hyn).

Y prif dŷ

Defnyddiwch forthwyl a hoelion i gydosod blwch y prif dy. Gallai fod yn haws cydosod y traed a’r gwaelod, a’r clawr colfachog yn gyntaf. Gallech hyd yn oed ddrilio twll i ddal darn o beipen ddŵr i awyru’r tŷ.

Y twnnel

Adeiladwch y twnnel a’i ffitio wrth y prif dŷ ar ongl, gan greu ramp.

Peidiwch â chael eich temtio i hepgor y twnnel oherwydd bydd yn atal ysglyfaethwyr rhag taro’u pawennau i mewn i’r tŷ!

Cam 2

Chwiliwch am lecyn cysgodol, tawel ar gyfer eich tŷ draenog. Codwch y clawr a rhowch haenen glyd o bapur newydd, dail a phorfa sych y tu mewn.

Cam 3

Gorchuddiwch y tŷ â dalen bolythen (ond gofalwch bod modd mynd ato i’w lanhau yn yr haf) a phentyrru pridd a dail marw o amgylch y tu allan gan sicrhau bod y fynedfa a’r bibell awyru yn glir.

Mae gadael borderi eich gardd dyfu’n wyllt yn creu coridorau hanfodol i ddraenogod a mamaliaid eraill allu symud yn rhwydd drwy eich gardd i’w cartref newydd a dod o hyd i fwyd. Cofiwch adael mynedfeydd ac allanfeydd mewn ffensys, ac os byddwch yn wyliadwrus, efallai y gwelwch yr ymwelwyr swil hyn yn eich gardd.

Cam 4

Rydym yn hoffi gweld beth yr ydych chi wedi bod yn ei wneud, felly gofynnwch i oedolyn rannu lluniau o’ch Tŷ Draenog gyda ni ar ein cyfryngau cymdeithasol.

  • Facebook – @centreforalternativetechnology
  • Twitter – @centre_alt_tech
  • Instagram – @centreforalternativetechnology

COFRESTRU AR GYFER E-NEWYDDION

Am y diweddaraf o ran gweithgareddau, digwyddiadau a’n hadnoddau arlein, cofrestrwch i dderbyn e-negesau a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.