Bod yn gyflwynydd bywyd gwyllt

Bod yn gyflwynydd bywyd gwyllt

Home » Gweithgareddau i’r Teulu » Bod yn gyflwynydd bywyd gwyllt

A ydych chi erioed wedi dymuno bod yn gyflwynydd bywyd gwyllt ar y teledu? Wel dyma’ch cyfle chi i ymarfer.

Beth am wisgo’n gynnes a bwrw allan i ganfod stori bywyd gwyllt y gallwch ei chyflwyno i’ch teulu gartref, ei hanfon ar fideo at ffrind neu hyd yn oed ei chyflwyno’n ‘fyw’ drwy fideoalwad.

Byddwch yn chwilfrydig. Does dim rhaid i chi fynd ymhell i ddod o hyd i ‘sgŵp’ natur ddiddorol. Gall eich gardd, parc cyfagos neu hyd yn oed eich hoff goeden neu glawdd fod yn ffynhonnell wych o weithgareddau bywyd gwyllt. Os edrychwch yn ddigon manwl does wybod beth y gallech ei weld.

Bydd angen

  • Camera (neu gamera ffôn) a llyfr nodiadau
  • Ffotograffau, fideos neu hyd yn oed brasluniau o’r natur a welsoch
  • Eich sgript cyflwynydd (llenwch eich sgript cyflwynydd isod i’ch helpu ar-gamera.)
  • “Stiwdio” gyfforddus i “ddarlledu” ohoni – gall eich soffa fod yn stiwdio ond byddwch yn greadigol drwy ychwanegu dail sydd wedi cwympo, pwmpenni wedi’u cerfio a charthen glyd.
  • Oedolyn i’ch helpu i recordio’ch fideo a/neu sefydlu’r fideoalwad i’ch ffrindiau a’ch teulu.

Sgript cyflwynydd

Isod fe welwch “sgript cyflwynydd” i’ch helpu i wybod beth i’w ddweud. Llenwch hon gan ddefnyddio eich canfyddiadau bywyd gwyllt, neu gallwch gael hwyl yn creu eich sgript eich hunan.

Helo, fy enw i yw _____________________.

Rwyf wedi bod yn archwilio bywyd gwyllt yn __________________________________ac rwyf wedi gweld____________________________

Gwelais y/yr___________________________yn (rhowch gylch neu ychwanegwch gynefin) yr ardd /y goedwig / y pwll / y clawdd / y goeden / y parc.

Yr hyn a welais oedd – (adroddwch y brif stori am y bywyd gwyllt a welsoch. Allwch chi gynnwys ffeithiau?)

______________________________________________________________________________________________.

Mae natur yn bwysig i mi oherwydd

______________________________________________________________________________________________.

Mae bod ym myd natur yn gwneud i fi deimlo’n

______________________________________________________________________________________________.

Fy hoff beth am y gwanwyn yw

____________________________________________________________________________________________.

Dewch i ni gael gweld beth rydyn ni wedi dal ar ein camera bywyd gwyllt heddiw. Gallwch ddefnyddio eich darn ffilm chi eich hun ar gyfer hwn. Daliwch eich ffôn i fyny neu dangoswch eich ffilm ar sgrin gerllaw.)

Byddwch yn gyflwynydd bywyd gwyllt – Cam wrth gam

1. Dewis eich stori.

Gan ofalu eich bod yn cadw at y cyngor Covid-19 yn eich ardal, ewch allan i chwilio am eich stori?

Gwisgwch yn gynnes, ewch â chamera (neu ffôn â chamera) ac efallai llyfr nodiadau i nodi unrhyw wybodaeth ychwanegol. Efallai bydd angen i chi fynd â’r ’criw” (eich teulu) gyda chi. Defnyddiwch eich synhwyrau – golwg, arogleuo, clyw a chyffwrdd i chwilio’n fanwl am eich stori.

Os na fedrwch chi fynd allan, beth allwch chi weld o’ch ffenestr? Mae bywyd gwyllt yn byw o’n cwmpas ymhob man felly gwnewch eich hun yn gyfforddus ger ffenestr er mwyn gweld beth neu bwy a welwch chi.

Pan fyddwch wedi cael eich stori, llenwch eich “sgript cyflwynydd” i’ch helpu pan ddaw eich “awr fawr”.

2. Byddwch yn chwilfrydig

Mae popeth byw yn chwarae rhan bwysig yn ein hecosystemau naturiol, felly cofnodwch bopeth a welwch a dewch â’ch canfyddiadau yn ôl i’w dangos ar-gamera.

3. Gwisgo eich set

Yn ôl yn eich cartref, gallai fod yn hwyl gwisgo’r set ar gyfer y darllediad “byw”. Penderfynwch o ble yr hoffech ddarlledu – soffa neu sedd gyfforddus efallai? Allwch chi wisgo’r set â dail wedi cwympo, lluniau o fywyd gwyllt y DU neu eitemau eraill yn ymwnneud â natur? Gallwch wneud i’ch set edrych fel gwersyll natur glyd neu stiwdio uwch-dechnoleg.

4. Dewis eich criw

Mae’n bosib y bydd angen help arnoch i ffilmio eich stori felly gofynnwch i oedolyn am gymorth i osod y camera neu baratoi’r fideoalwad.

5. Ewch yn fyw

P’un ai ydych yn cyflwyno i’ch teulu yn eich cartref, yn gwneud fideo i’w anfon i ffrindiau neu’n mynd yn “fyw” mewn fideoalwad, sicrhewch fod eich sgript ac unrhyw offer cynorthwyol, lluniau a chlipiau fideo sydd eu hangen arnoch yn barod wrth law.
Cymerwch anadl fawr ac ewch amdani. Rwy’n siŵr y bydd eich darllediad yn ysbrydoli eich ffrindiau i roi cynnig arni hefyd.
Os ydych yn gwneud fideo, cofiwch ei ffilmio ar fformat tirlun.

6. Rhannu â ni

Hoffem weld eich darllediadau fideo a’r darnau ffilm rydych chi wedi eu casglu. Gofynnwch i oedolyn eu rhannu gyda ni drwy ein cyfryngau cymdeithasol.

  • Facebook – @centreforalternativetechnology
  • Twitter – @centre_alt_tech
  • Instagram – @centreforalternativetechnology

COFRESTRU AR GYFER E-NEWYDDION

Gallwch dderbyn y newyddion diweddaraf am ein gweithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein drwy gofrestru i dderbyn e-negesau a’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.