Gwneud bwydwr conau pinwydd i’r adar

Gwneud bwydwr conau pinwydd i’r adar

Home » Gweithgareddau i’r Teulu » Gwneud bwydwr conau pinwydd i’r adar

Bwydwch yr adar mewn steil drwy wneud eich bwydwyr conau pinwydd eich hunain.

Yn ystod misoedd y gaeaf, gall fod yn anodd i fywyd gwyllt ddod o hyd i ddigon o fwyd naturiol megis aeron, hadau, pryfed, mwydod a ffrwyth. Gallwch helpu drwy adael ffrwyth, hadau, cnau a chaws wedi’i gratio allan iddynt.

Gall fod yn hwyl i wneud bwydwyr danteithion côn pinwydd a’u hongian i fyny i’r adar, a gall mynd am dro gaeafol i gasglu conau pinwydd fod yn adfywiol hyd yn oed ar ddiwrnod gwyntog.

You will need

  • Casgliad o gonau pinwydd sych
  • Cortyn
  • Menyn cnau neu fenyn had (cofiwch ddewis mathau heb halen neu siwgr), neu siwed llysieuol (ffynhonnell wych o fraster hanfodol)
  • Hadau cymysg i adar (cymysgwch maethlon o fitaminau a mwnau i roi egni i adar a’i helpu i gadw’n iach)
  • Powlen a llwy

Cam 1

Casglwch eich conau. Gwisgwch yn gynnes ac ewch allan i gasglu eich conau, ond gwiriwch y cyfyngiadau a’r canllawiau Cofid-19 yn eich ardal cyn mynd. Tra’ch bod allan, chwiliwch am eich hoff bethau am y gaeaf neu rywbeth na welsoch o’r blaen, ond peidiwch ag anghofio ANADLU. Mae anadlau dwfn o awyr iach yn cael effaith leddfol ar ein meddyliau a’n cyrff sy’n ein gwneud i deimlo’n GRÊT.

Mae conau mawr yn gwneud bwydwyr llawnach felly ceisiwch gasglu’r rhai gorau ond byddwch yn ofalus ac osgoi pigau, a golchwch eich dwylo wedi cyrraedd adre.

Cam 2

Sychu a chlymu. Rhowch eich conau i sychu iddynt gael agor allan, yna clymwch darn o weiar neu gortyn o amgylch eich côn fel bod modd ei hongian mewn coeden neu ar orsaf bwydo adar.

Cam 3

Gwneud eich cymysgwch. Mewn powlen lân, cymysgwch y menyn cnau neu siwed llysieuol gyda’r hadau adar. Gwnewch ddigon i wasgu i mewn i’ch conau. Peidiwch â bod ofn defnyddio’ch dwylo ond peidiwch â bwyta’r cymysgedd. Mae’r rysáit hyn ar gyfer yr adar yn unig.

Cam 4

Llenwch eich côn. Gan ddefnyddio’ch dwylo (gwaith budr ond hwylus!) gwasgwch y cymysgedd i mewn i’r conau gan ofalu eich bod yn llenwi pob bwlch rhwng yr hadau. 

Cam 5

Bwydo’r adar. Hongiwch eich bwydwr mewn man y gall yr adar ei gyrraedd yn rhwydd ond peidiwch ag anghofio’ch bod chi am ei weld hefyd. Felly ffeindiwch leoliad sy’n hawdd i chi i’w weld o bellter neu o ffenestr glyd yn y tŷ (mae’n dal i fod yn aeaf!)

Cam 6

Pwy welwch chi? Mae dwsinau o lyfrau adnabod adar, arweinlyfrau ac apiau am ddim ar gael gall eich helpu i adnabod eich cyfeillion adeiniog.

TIP PWYSIG.

Wrth wylio’r adar, cadwch gamera neu lyfr nodiadau a phen wrth law er mwyn cofnodi’r hyn a welwch. Gall eich helpu i adnabod rhywogaeth newydd yn eich gorsaf fwydo neu nodi ymddygiad newydd.

 

Image (c) Shutterstock / Kuttelvaserova Stuchelova

COFRESTRU AR GYFER E-NEWYDDION

Gallwch dderbyn y newyddion diweddaraf am ein gweithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein drwy gofrestru i dderbyn e-negesau a’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.