Tynnu llun o’ch golygfa di-garbon
Bywyd drwy eich ffenestr: tynnwch lun o’ch golygfa chi o fyd di-garbon.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein bywydau a’r byd y tu allan wedi newid crin dipyn. A allai hwn fod yn gyfle i ni ddychmygu byd gwyrddach, iachach a di-garbon?
Gall pob un ohonom wneud dewisiadau gwyrdd yn ein cartrefi, sy’n ffantastig, ond er mwyn lleihau effaith newid hinsawdd, rhaid cael cynllun mawr byd-eang.
Dewiswch ffenestr yn eich cartref. Beth allwch chi ei weld? Pe baech yn ail-lunio’r olygfa mewn dyfodol eco, sut olwg fyddai arni? Ym mha ffordd y byddai’n wahanol? Beth fyddai’n aros yr un peth?
A allwch dynnu llun o’ch golygfa newydd gyffrous a’i rannu gyda ni?
BETH FYDD EI ANGEN ARNOCH
- Ffenestr
- Papur
- Peniau/pensiliau lliw/unrhyw ddeunydd arlunio sydd gennych
CAM WRTH GAM
1. Dewis eich golygfa
Ewch am dro o gwmpas eich cartref gan edrych allan drwy bob ffenestr. Oes gan un olygfa sy’n fwy diddorol na’r lleill? Allwch chi weld coeden, parc neu dŷ arall? Allwch chi weld drwyddi yn hawdd a chithau’n eistedd yn gyfforddus?
2. Fframio eich gwaith
Mae edrych allan drwy ffenestr yn rhoi ffrâm barod i’ch gwaith ac yn gwneud eich golygfa yn unigryw i chi. Dechreuwch drwy edrych ar ffrâm y ffenestr. Beth yw deunydd y ffrâm? Oes yna gyrtenni neu lenni? Tynnwch lun o’ch ffrâm ffenestr unigryw ar ymyl y papur. Ystyriwch liw, ansawdd a siâp 3D.
3. Dychmygu byd newydd
Nawr edrychwch yn fanwl ar yr hyn a welwch drwy’r ffenestr. A allai rhai o’r pethau a welwch gael eu heffeithio gan newid hinsawdd? Dychmygwch eich golygfa mewn byd di-garbon, a sut y gallai pethau fod wedi newid – er gwell neu er gwaeth. Rydym wedi awgrymu rhai pethau i’w hystyried isod, ond gadewch i’ch dychymig redeg yn wyllt i greu byd newydd cyffrous, cadarnhaol ac iach.
- Bwyd – A yw pobl yn tyfu bwyd yn lleol, yn eu cartrefi neu yn y gymuned? Sut mae’n cael ei becynnu?
- Teithio – Sut mae pobl yn mynd i’r gwaith, ysgol ac i weld eu ffrindiau a’u teuluoedd? A ydynt yn defnyddio ynni gwyrdd – ceir trydan, beiciau, cerdded neu rywbeth hollol wahanol
- Gwyliau – i ble mae pobl yn mynd ar ei gwyliau a sut y maent yn teithio yno?
- Cartrefi – Sut y mae ein cartrefi ac adeiladau eraill yn edrych? O ble y maent yn cael eu hynni? Sut y gwresogir hwy?
- Natur – Sut olwg sydd ar ein ardaloedd naturiol? A oes mwy ohonynt? A yw ein dinasoedd yn fwy gwyrdd? A yw ein cynefinoedd naturiol yn iachach, cryfach ac yn fwy amrywiol?
4. Tynnwch lun o’ch golygfa di-garbon
Nawr mae’n amser rhoi pensil i bapur a thynnu llun o’ch golygfa di-garbon newydd a chyffrous.
5. Rhannwch eich lluniau gyda ni
Byddem yn hoffi gweld eich gweledigaeth chi am ddyfodol cynaliadwy! Tynnwch ffotograff o’ch llun a’i bostio ar dudalen facebook CyDA neu tagiwch @centreforalternativetechnology #CATatHome.
COFRESTRU AR GYFER E-NEWYDDION
Gallwch dderbyn y newyddion diweddaraf am ein gweithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein drwy gofrestru i dderbyn e-negesau a’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.