Lles yn ystod y gaeaf: dathlu gwisgo coeden

Lles yn ystod y gaeaf: dathlu gwisgo coeden

Home » Gweithgareddau i’r Teulu » Lles yn ystod y gaeaf: dathlu gwisgo coeden

Bwydo’r adar, cael hwyl, a dathlu’r tymor trwy addurno eich hoff goeden yn yr awyr agored.

Yn y DU, mae’n gallu teimlo fel petai’r gaeaf yn para byth. Gyda diwrnodau oer, gwlyb a nosweithiau tywyll, does rhyfedd ein bod yn colli’r awydd i fynd allan, ond mae’n bwysig mynd allan a bod yn rhan o natur pan fedrwn ni. Profwyd bod treulio amser ym myd natur yn codi ein hwyliau. Gall mynd am dro byr yn eich llecyn gwyrdd agosaf godi eich ysbryd a’ch lefelau egni, yn enwedig ar ddiwrnod heulog prin o aeaf.

Mae gwisgo coeden yn y tŷ adeg y Nadolig yn rhywbeth y mae’r mwyafrif ohonom yn gyfarwydd ag ef, ond beth am ddewis eich hoff goeden y tu allan a’i haddurno? Yn ystod y diwrnodau hir tywyll hyn, gall coeden wedi’i gwisgo â danteithion ar gyfer bywyd gwyllt ac addurniadau cartref fod yn olygfa i godi calon ac yn ffordd dda i ddathlu pwysigrwydd coed.

Dathliad gwisgo coeden – cam wrth gam

Cam 1

Dewiswch eich coeden. Gan ddilyn canllawiau a chyfyngiadau Covid-19, dewiswch eich hoff goeden neu lwyn yn eich lle awyr agored. Mae gwisgo coeden gyhoeddus yn iawn cyn belled â’ch bod yn cael caniatâd gan y perchennog; efallai bod coeden yn yr ysgol neu’ch canolfan gymuned y gallech helpu i’w dathlu.

Cam 2

Amser i fod yn greadigol. Beth rydych yn ei hoffi am eich coeden? Allech chi ddathlu hyn drwy eich addurniadau?Defnyddiwch luniau, geiriau, penillion, deunydd organig ac eitemau lliwgar cyfeillgar i’r amgylchedd – ond meddyliwch yn ofalus am eich deunyddiau.

  • Deunydd diogel. Efallai y chwythith eich addurniadau i ffwrdd felly i sicrhau na fyddant yn troi’n sbwriel niweidiol, defnyddiwch ddeunydd organig, papur a cherdyn heb blastig a phaent diwenwyn.
  • Addurniadau bwytadwy. A all eich addurniadau ddyblu fel tamaid blasus i fywyd gwyllt? Gall bwydwr côn pinwydd, ffrwythau neu linynnau o ddanteithion adar-gyfeillgar edrych yn dda yn ogystal â denu bywyd gwyllt i’ch gardd.

Cam 3

Dathlu eich coeden. Cyn belled â’i bod yn ddiogel, beth am gynllunio dathliad gaeafol gyda’ch teulu, gyda diod a byrbrydau i’ch helpu i ddathlu’r gorau o’r tymor.

Robin in a tree

COFRESTRU AR GYFER E-NEWYDDION

Gallwch dderbyn y newyddion diweddaraf am ein gweithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein drwy gofrestru i dderbyn e-negesau a’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.