Mudiadau a Grwpiau Cymunedol
Sut all cymunedau gymryd y camau nesaf ar eu taith i drawsnewid cyfiawn, gan ymgysylltu mewn ffordd effeithiol â gweithgarwch trawsnewid ehangach a gweithredu gwersi ein hymchwil Prydain Di-garbon ar y lefel leol?
Trwy gyfrwng gwybodaeth ac arbenigedd CyDA ynghylch hyfforddiant, mae grwpiau cymunedol, busnesau, awdurdodau lleol a grwpiau ffydd yn meithrin ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ddyfnach ac yn creu datrysiadau priodol i ddelio â’r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol yn ystod eu hymweliadau grŵp â CyDA.
Mae ein tiwtoriaid gwybodus a phrofiadol yn cynnig amrediad o deithiau, anerchiadau a gweithdai, sy’n ceisio helpu eich grwpiau trwy gyfrwng proses ysbrydoledig o ddysgu ac archwilio.

Hyfforddiant Prydain Di-garbon, Gweithdai, Hwyluso a Hyfforddiant Llythrennedd Carbon
Mae’r tîm Prydain Di-Garbon yn CyDA yn cynnig ystod eang o wasanaethau hyfforddiant ar gyfer grwpiau sy’n dymuno cymryd camau effeithiol yng nghyd-destun yr argyfyngau hinsawdd ac ecolegol. Gan fanteisio ar 50 mlynedd yDA o arloesi, gwaith ymchwil ac addysg, ein hadroddiad pwysig ‘Rising to the Climate Emergency’ (2019) a’n gwaith helaeth gyda sefydliadau ar draws y wlad, gallwn weithio gyda chi er mwyn helpu eich mudiad neu’ch grŵp cymunedol i gymryd y camau nesaf.
Mae CyDA hefyd yn ddarparwr blaenllaw hyfforddiant Llythrennedd Carbon, ac mae gennym amrywiaeth o gyrsiau unigryw wedi’u hachredu gan y Prosiect Llythrennedd Carbon. Gall y rhaglenni hyfforddiant hyn fod yn rhan hanfodol o godi ymwybyddiaeth gyda’ch mudiad ac ymhlith y gymuned ehangach, ac wrth greu diwylliant carbon isel sy’n ymgysylltu’n llawn gyda ac sy’n barod ar gyfer trawsnewid effeithiol.
Mae’r hyn a gynigir yn cynnwys gweithdai strategaeth pwrpasol, hwyluso, diwrnodau meithrin tîm a mwy.
BYD O GYNALIADWYEDD
Bioamrywiaeth sy’n ffynnu, gerddi prydferth, adeiladau gwyrdd arbrofol, arddangosiadau ynni adnewyddadwy a mwy – gallwch ddarganfod yr hyn sy’n gwneud safle CYDA yng Nghanolbarth Cymru yn lle mor arbennig.

YN CYDA NEU O BELL
Yn ogystal â chroesawu grwpiau i’n cartref yng Nghanolbarth Cymru, gallwn ddarparu hyfforddiant undydd neu dros sawl diwrnod ar-lein i fodloni’ch gofynion. Mae rhai grwpiau yn dewis cynnig hybrid dros sawl diwrnod!
YMWELIADAU CORFFORAETHOL
P’un ai ydych am archebu diwrnod cwrdd i ffwrdd i dîm, gweithgareddau adeiladu tîm neu ddigwyddiad cymelliadol, mae gan CYDA lawer i’w gynnig.

Cyfleusterau Cynadledda
Mae adeilad WISE CyDA yn lleoliad gwirioneddol gynaliadwy yng nghanol Cymru gyda theatr ddarlithio â seddi rhenciog ar gyfer hyd at 130 o gynrychiolwyr a 5 lleoliad ymneilltuo.

Llety
Mae gan CyDA 24 ystafell wely en-suite yn adeilad WISE, cyfleuster eco arobryn a ddyluniwyd yn gelfydd.

Arlwyo Llysieuol
P’un a ydych chi’n cynnal digwyddiad corfforaethol, ymweliad ysgol, taith grŵp neu arhosiad lles, mae caffi llysieuol CyDA yn cynnig opsiynau arlwyo amlbwrpas i gyd-fynd ag unrhyw achlysur.



