
Prydain Di-garbon: Llythrennedd Carbon Arlein ar gyfer Awdurdodau Lleol
Mawrth, 25 2025 - Mawrth, 26 2025Home » Prydain Di-garbon: Llythrennedd Carbon Arlein ar gyfer Awdurdodau Lleol
Archwilio atebion hinsawdd, creu cynllun gweithredu ar eich cyfer chi a’ch gwaith, ac ennill ardystiad Llythrennedd Carbon – ar ein cwrs arlein.
Wedi’i ddatblygu’n benodol ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn Awdurdodau Lleol, bydd y cwrs arlein hwn yn cwmpasu gwyddor newid hinsawdd, effeithiau lleol a byd-eang, a sut y bydd y rhain yn effeithio ar waith a dyletswyddau Awdurdodau Lleol. Gan ddefnyddio ein hymchwil Prydain Di-garbon, byddwn yn edrych ar amcanion carbon isel yn y sector Awdurdodau Lleol ac yn creu cynllun gweithredu i ddylanwadu ar eraill. Bydd eich allbwn o’r cwrs yn cael ei asesu gan y Prosiect Llythrennedd Carbon er mwyn i chi dderbyn ardystiad Llythrennedd Carbon.
Beth yw Llythrennedd Carbon? Mae’r Prosiect Llythrennedd Carbon yn ei ddisgrifio fel ‘Ymwybyddiaeth am gost ac effaith carbon gweithgareddau pob dydd a’r gallu a’r cymhelliant i leihau allyriadau ar sail unigolyn, cymuned a sefydliad.’
Gwybodaeth allweddol
- Parhau: dau sesiwn bore
- Diwrnod 1: Dydd Mawrth 25 Mawrth, Diwrnod 2: Dydd Mercher 26 Mawrth 2025, 9:30 – 13:00 ar y ddau ddiwrnod
- Lleoliad: arlein
- Cynigir yr hyfforddiant hwn hefyd fel cwrs pwrpasol ar ddyddiad sy’n gyfleus i chi. Cysylltwch i drefnu.
- Rhaid cwblhau hyd at ddwy awr ychwanegol o waith annibynnol i dderbyn achrediad.
- Ffi: £140
- Cysylltwch â ni os hoffech dalu trwy anfoneb
- Yn cynnwys: hyfforddiant, sesiynau holi ac ateb, deunydd cwrs arlein, achrediad Prosiect Llythrennedd Carbon
Telerau ac amodau
-
- Rhaid bod yn 16 oed neu’n hŷn i fynychu’r cwrs hwn
- Am restr lawn o delerau ac amodau cliciwch yma
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
Mae Prosiect Prydain Di-garbon CyDA yn cynnig y data caled a’r hyder sydd eu hangen i ragweld dyfodol lle’r ydym wedi ymateb i ofynion gwyddor hinsawdd. Mae’n helpu i leihau ofn a chamddealltwriaeth ac agor trafodaethau newydd a chadarnhaol sy’n canolbwyntio ar atebion.
Bydd y cwrs achrededig ar-lein hwn gan y Prosiect Llythrennedd Carbon yn archwilio’r atebion a gynigir gan weledigaeth pwynt terfyn Prydain Di-garbon. Gan ddefnyddio astudiaethau achos ac enghreifftiau go iawn, byddwn yn ystyried camau ymarferol i gyrraedd sero net o safbwynt Awdurdodau Lleol.
Yn ystod y cwrs byddwch yn ymrwymo i ddau gam gweithredu i leihau carbon; un fel unigolyn ac un fydd yn dylanwadu ar grŵp o unigolion. Rydym yn annog camau gweithredu sy’n seiliedig yn y gwaith er mwyn hybu newid diwylliant fydd yn arwain at leihau carbon o fewn cynghorau. Caiff y camau hyn eu gwerthuso gan y Prosiect Llythrennedd Carbon er mwyn i chi dderbyn ardystiad Llythrennedd Carbon, gan eich galluogi i fynd ymlaen i hyfforddi eraill yn eich sector neu faes gwaith.
Mae’r hyfforddiant ar-lein hwn yn addas ar gyfer pob rôl o fewn Awdurdod Lleol, gan gynnwys aelodau etholedig, swyddogion ac arweinwyr. Bydd amserlen y dydd yn cynnwys sesiynau trafod a myfyrio, holi ac ateb, rhwydweithio a thoriadau all-lein i gadw’r fformat arlein yn hwylus ac yn ddiddorol.
Chwilio am ragor o hyfforddiant Di-garbon?
Mae ein cyrsiau poblogaidd Prydain Di-garbon: Yn Fyw arlein yn cwmpasu ystod o bynciau o ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni i ddiet a defnydd tir. Dros y ddau ddiwrnod byddwch, ar y cyd â chyfuniad amrywiol o gyfranogwyr, yn cymryd rhan mewn gweithdai, trafodaethau a sesiynau myfyrio gyda’r nod o gataleiddio gweithredu ar draws pob rhan o gymdeithas.
Cyfarfod â’ch tiwtoriaid
John Anderson
Mae gan John raddau mewn cysylltiadau rhyngwladol, y gyfraith a diogelwch rhyngwladol. Mae ganddo gefndir mewn yngynghoriaeth cefnogi penderfyniadau, hyfforddi, ymchwil, hwyluso a rheoli prosiectau yn y sector preifat. Ar hyd o bryd, mae’n ymchwilio i addasu i newid hinsawdd gyda CyDA. Mae’n caru bod yn yr awyr agored ac mae’n bibydd brwd.
Related Pages
Related events


Gwyddor Cynhyrchu Bwyd Cynaliadwy
30th Mehefin 2025
Adeiladu gan ddefnyddio Clom
9th Awst 2025
Adeiladu Tyrbin Gwynt Bach
6th Medi 2025Searching Availability...