Mae CyDA ar agor ar gyfer cyrsiau, digwyddiadau arbennig, ymweliadau grŵp a myfyrwyr Ysgol Graddedigion yr Amgylchedd, ond yn anffodus nid yw ar agor i ymwelwyr cyffredinol ar hyn o bryd.
Yn ystod cyfnod heriol i’r sector elusennau yn y DU, mae costau rhedeg cynyddol a niferoedd is o ymwelwyr i Gymru ar ôl y pandemig yn golygu nad yw hi’n ymarferol yn economaidd i ni barhau i gynnal y ganolfan ymwelwyr yn ei model presennol, er i ni wneud ein gorau glas i geisio cyflawni hynny.
Er bod drysau ein canolfan ymwelwyr ar gau i ymwelwyr cyffredinol am y tro, rydym yn parhau i ddarparu sgiliau gwyrdd ar gyfer y dyfodol trwy gyfrwng holl feysydd arall ein gwaith.
Nid yw hyn yn effeithio ar ein darpariaeth o gyrsiau byr ac Ysgol Graddedigion yr Amgylchedd, nac ychwaith ar ein Hwb Prydain Di-garbon a’n Labordy Arloesi, sy’n caniatáu i ni barhau i rannu’r wybodaeth, y sgiliau a’r offerynnau gofynnol er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a byd natur.
Yn ogystal, rydym yn parhau i groesawu ystod eang o grwpiau i CyDA, gan gynnwys ysgolion a phrifysgolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill.
Pan fydd lle gennym, gallwn gynnig cyfleuster llogi mannau cyfarfod a’r lleoliad a llety Gwely a Brecwast ar gyfer grwpiau ac unigolion.
Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo’n gryf i’n cynlluniau i ailddatblygu canolfan eco CyDA er mwyn creu mannau addysg a sgiliau newydd ac wedi’u hadnewyddu, llety ychwanegol, a phrofiad ysbrydoledig i ymwelwyr. Mae hyn yn golygu pan fyddwn yn ailagor i ymwelwyr cyffredinol, y byddwn yn gallu cyrraedd mwy o bobl. Mae amseriad hyn yn ddibynnol ar gyllid – cadwch olwg ar ein gwefan neu cofrestrwch i gael ein enewyddion am ddiweddariadau.
Am wybodaeth bellach, trowch at ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.
Os hoffech gefnogi ein gwaith wrth rannu sgiliau gwyrdd ar gyfer y dyfodol, gallwch wneud cyfraniad neu ymaelodi heddiw. Diolch.

Ymweliadau grŵp

Cyrsiau byr

Ysgol Graddedigion yr Amgylchedd

Hwb Prydain Di-Garbon a Labordy Arloesi

Gwely a Brecwast

Llogi’r Lleoliad
Gwneud cyfraniad i CyDA
Newidiwch y byd gyda ni heddiw. Bydd eich rhodd yn helpu i rannu datrysiadau ymarferol a dysgu ymarferol wrth i ni gydweithio tuag at sicrhau dyfodol mwy diogel, mwy iach a mwy cynaliadwy i bawb. Diolch.