Ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ymweliadau wedi’u trefnu ymlaen llaw yn unig (cyrsiau, digwyddiadau, Gwely a Brecwast, grwpiau, myfyrwyr) – darllen mwy
Ynni

Ynni


Home » Dewch i CyDA » Grwpiau a Dysgu » Ynni

Dewch i weld ein casgliad o arddangosfeydd ynni adnewyddadwy rhyngweithiol ac addysgiadol, a dysgu mwy am sut y gallwn ddiogelu ein dyfodol.

I fynd i’r afael â newid hinsawdd mae angen i ni stopio llosgi tanwydd ffosil – a rhaid i ni weithredu ar unwaith!

Mae llawer mwy y gellir ei wneud i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ac, i gwrdd â her newid hinsawdd, bydd rhaid i ni ddefnyddio amryw o wahanol dechnolegau i ddiwallu ein hanghenion ynni.

Defnyddio Pŵer Dŵr

Rydym yn defnyddio dŵr o’r gronfa ddŵr yn y bryniau uwchben y ganolfan ymwelwyr a phwysedd dŵr, sy’n cael ei greu gan bwysau’r dŵr, i gynhyrchu trydan. Mae’r tyrbin dŵr ar safle CyDA yn gorfodi 20 litr o ddŵr yr eiliad yn erbyn llafnau’r tyrbin sy’n gwneud iddo droi gan gynhyrchu allbwn o hyd at 3.5 cilowat.

Biomas ar gyfer Gwresogi

Gwresogir holl adeiladau CyDA gan foeleri biomas. Mae’r boeleri hyn yn llosgi biomas ar ffurf pelenni coed i greu gwres mewn amgylchedd tra reoledig ac maent yn cyrraedd graddfeydd effeithlonrwydd o tua 90%. Dewch i ddarganfod mwy am fiomas a’i rôl mewn byd ynni adnewyddadwy.

Manteisio ar Bŵer yr Haul

Yn y pen draw mae pob ynni adnewyddadwy yn defnyddio pŵer yr haul. Dewch i ganfod sut y gallwn ddefnyddio technoleg syml i dwymo dŵr yn uniongyrchol gydag offer Gwresogi Dŵr Solar, neu gynhyrchu ynni trydan gyda Phaneli Solar Ffotofoltaidd.

Harneisio’r Gwynt

Y DU yw’r wlad fwyaf gwyntog yn Ewrop, ac os gosodir tyrbinau gwynt yn y lleoliad cywir maent yn ffordd dda iawn o gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Gellir hefyd defnyddio tyrbinau gwynt syml i bwmpio dŵr.

Mae gennym nifer o arddangosfeydd ar y safle sy’n helpu i ddangos potensial eithriadol y gwynt.   Dewch i weld ein ‘sedd wynt’ a phrofi pŵer y gwynt yn uniongyrchol. Gallwch hefyd weld arddangosfeydd am dyrbinau gwynt mawr ac amryw o’u cydrannau, neu gallwch weld y gwynt yn cynhyrchu trydan wrth i’n tyrbin gwynt bach (Marlec FM 1800) gyflenwi trydan i’r Eco-gabanau.

 

 

 

Archebwch eich ymweliad

Archebwch eich ymweliad ymlaen llaw i ddechrau archwilio byd o fyw'n wyrdd.