CYFLEUSTERAU A LLEOEDD AR GYFER CYNNAL DIGWYDDIADAU

Home » Dewch i CyDA » Llogi Lleoliad » CYFLEUSTERAU A LLEOEDD AR GYFER CYNNAL DIGWYDDIADAU

Gydag amrediad o leoedd hygyrch a chyflawn er mwyn cynnal digwyddiadau, digon o le parcio, wifi am ddim, gwasanaeth arlwyo a llety ar y safle – a hyn oll mewn canolfan eco sy’n adnabyddus ar draws y byd ac sy’n cynnwys 24 erw o erddi, coetiroedd ac arddangosiadau – mae gan CYDA bopeth y mae ei angen arnoch am ymweliad grŵp ysbrydoledig.

DIGON O LEOEDD PARCIO AM DDIM AR Y SAFLE

Mae gennym ddigon o le ar gyfer bysiau yn ein prif faes parcio, ynghyd â chyfleusterau parcio i’r anabl ger prif adeiladau CYDA.

CANOLFAN YMWELWYR DRAWIADOL

Cyfle i ddarganfod byd cuddiedig, yn llawn enghreifftiau ymarferol o ynni adnewyddadwy, gerddi organig prydferth, adeiladau gwyrdd arbrofol a chynefinoedd coetir a reolir mewn ffordd gynaliadwy.
Cyfrifiadur gyda thudalennau gwe ysgol y graddedigion ar y sgrîn

WIFI AM DDIM AR DRAWS Y SAFLE

Gall y signal symudol fod yn gyfyngedig oherwydd ein lleoliad gwledig, ond mae ein wifi am ddim helaeth yn ein holl brif adeiladau ar gael i chi.
Rammed Earth lecture theatre at Graduate School of the Environment

LLEOEDD PWRPASOL AR GYFER CYNNAL DIGWYDDIADAU

Theatr ddarlithio ar gyfer hyd at 150 o bobl, wyth o ystafelloedd dosbarth cyflawn, a lle derbynfa er mwyn cynnal arddangosfeydd a gwasanaeth arlwyo.