Taith Safle CyDA

Taith Safle CyDA

Mae gan safle CyDA nifer o straeon i’w hadrodd a gellir teilwra ein teithiau i ateb amryw o anghenion.

Mae’r daith yn cwmpasu hanes y safle a’r Ganolfan ei hun, ac yn cyflwyno’r prif themâu cynaladwyedd a welir ar y safle, o ynni adnewyddadwy i’r ystod eang iawn o enghreifftiau o adeiladau amgylchedd gyfrifol.

Mae’r daith hefyd yn cynnwys gerddi organig hardd CyDA ac mae opsiwn i gynnwys Llwybr Chwarel sy’n amgylchynu’r safle ac yn cynnig golygfeydd trawiadol dros y safle a Biosffer Dyfi, lle y mae wedi’i leoli.

Gwybodaeth allweddol

  • Parhau am 75 munud
  • Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 – 4 a lefel A
  • Canolbwyntio ar Ddaearyddiaeth a phynciau STEM
  • Mae’r daith yn cynnwys mynediad i safle allanol CyDA ac felly mae esgidiau a dillad awyr agored addas yn hanfodol
  • Cwmpasu hanes y safle, CyDA a’r prif themâu cynaladwyedd a welir ac a ddefnyddir ar y safle.
  • £90 y sesiwn (hyd at 20 disgybl)

Cysylltu â Ni

Cysylltwch â ni i wneud ymholiad neu i ddarganfod mwy.