Hanes Dŵr

Hanes Dŵr

Mae hanes dŵr yn archwiliad i rôl dŵr yn ein bywydau bob dydd a iechyd y blaned.

Mae’r daith dywysedig hon yn cynnwys ymweld â system ddŵr oddi-ar-y-grid CyDA, y gronfa ddŵr, cyfleusterau trin dŵr, generadur dŵr a’r rheilffordd cydbwysedd dŵr. Yna bydd y daith yn ymweld â’r gwelyau cyrs sy’n trin dŵr gwastraff CyDA, cyn gorffen ar lan yr Afon Dulas.

Gwybodaeth allweddol

  • Parhau am 90 munud
  • Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 – 4, lefel A a lefel prifysgol gyda gweithgareddau cyfoethogi
  • Canolbwyntio ar Ddaearyddiaeth a phynciau STEM
  • Bydd y daith yn cynnwys mynediad i rannau allanol safle CyDA ac mae esgidiau a dillad awyr agored addas yn hanfodol.
  • Cwmpasu’r cylch dŵr, trin dŵr, a dŵr fel ffynhonnell ynni adnewyddadwy.
  • £90 y sesiwn (hyd at 20 disgybl)
  • Gellir ymestyn y gweithgaredd hwn drwy ei gysylltu â gweithgaredd trydan dŵr ymarferol sy’n addas ar gyfer lefel A ac uwch.

Braslun o’r Gweithdy

Beth sy’n digwydd?

Bydd y disgyblion yn cael taith dywysedig o system ddŵr CyDA, gan edrych ar y gronfa ddŵr, crynhoad y dŵr, cyn gorffen ar lannau’r Afon Dulas. Cyflwynir y disgyblion i’r pethau sy’n effeithio ar ansawdd y dŵr gan gynnwys llygryddion posib, byddant yn cynnal profion ansawdd dŵr sylfaenol ac yn gweld ac yn profi effeithlonrwydd y system hidlo.   Rhoddir sylw i gysyniad ôl troed dŵr personol gan wneud cymhariaeth ag eraill ar draws y byd.

Yna bydd y disgyblion yn archwilio’r systemau hidlo dŵr a’r gwelyau cyrs ar y safle. Byddant hefyd yn ymweld â safle’r generadur trydan dŵr ac yn edrych ar sut y defnyddir dŵr i yrru rheilffordd cydbwysedd dŵr CyDA.

Lleoliad

Cynhelir y gweithdy hwn ar brif safle CyDA.

Sgiliau a Chysylltiadau Cwricwlwm

Mae’r daith hanes dŵr yn galluogi disgyblion i:

  • Ennill dealltwriaeth am reoli ffynonellau dŵr
  • Dysgu am ôl troed dŵr
  • Ymchwilio i’r materion ymarferol sy’n effeithio ar ansawdd dŵr
  • Ymchwilio i systemau hidlo
  • Cynnal profion ar samplau dŵr a chofnodi’r canlyniadau
  • Ennill dealltwriaeth ymarferol am ddŵr fel ffynhonnell ynni adnewyddadwy.

Gweithgareddau Cyfoethogi

Gallwn drefnu ymweliadau oddi-ar-y-safle i orsaf bŵer trydan dŵr 56 MW ger Aberystwyth (18 milltir o CyDA).

  • Addas ar gyfer lefel A ac uwch
  • £120 y sesiwn. Nid yw’r pris hwn yn cynnwys cludiant, ond gellir trefnu cludiant a bod angen.
  • Dylid caniatáu 3 awr ar gyfer teithio a’r ymweliad yn seiliedig ar grŵp o 24. Bydd rhaid rhannu grwpiau mawr.

Cysylltu â Ni

Cysylltwch â ni os oes gennych gwestiwn neu os hoffech wybod mwy