Archwilio Ynni Biomas

Archwilio Ynni Biomas

Mae’r gyfres hon o weithdai yn galluogi disgyblion i gael cipolwg ymarferol ar y materion sy’n gysylltiedig â defnyddio biomas fel ffynhonnell ynni.

Gan roi sylw i’r wyddoniaeth a’r beirianneg sy’n gysylltiedig â biomas, gall y gweithgareddau hyn gynnwys mynediad i goedwigoedd a systemau biomas gwresogi ardal CyDA.

Taith Safle Biomas

Braslun o’r Gweithgaredd:

Cyflwynir y disgyblion i’r dadleuon sy’n gysylltiedig â disgrifio biomas fel ynni adnewyddadwy. Byddant yn edrych ar y gwahanol fathau o danwydd coed a ddefnyddir mewn peiriannau gwresogi biomas ac yna’n cymryd taith tu ôl i’r llenni i weld y systemau a ddefnyddir ar safle CyDA. Bydd hyn yn cynnwys peirianneg sylfaenol a gweithrediad yr offer.

Gwybodaeth allweddol:

  • Parhau am 1 awr
  • Addas ar gyfer Lefel A
  • Canolbwyntio ar bynciau STEM
  • Y daith yn cynnwys mynediad i safle CyDA, ac mae esgidiau a dillad awyr agored addas yn hanfodol
  • Cynnwys rheoli coedwigoedd mewn modd cynaliadwy, mathau cyffredin o danwydd coed ac egwyddorion gweithredu system biomas gwresogi ardal
  • £60 y sesiwn (hyd at 16 disgybl)

Gweithdy Ynni

Braslun o’r Gweithdy:

Bydd disgyblion yn gweithio mewn grwpiau gan ddefnyddio tegell storm sy’n llosgi coed i fesur yr ynni a drosglwyddir wrth losgi tanwydd i dwymo dŵr. Mesurir y tymheredd yn rheolaidd a chaiff y mesuriadau hyn eu defnyddio wedyn i greu graffiau tymheredd/amser y gellir eu defnyddio ar gyfer amryw o gyfrifiadau gan gynnwys pŵer.

Gwybodaeth allweddol:

  • Parhau am 1 awr
  • Addas ar gyfer lefel A
  • Canolbwyntio ar bynciau STEM
  • Mae’r gweithgaredd yn cynnwys gweithio allan ar safle CyDA ac mae esgidiau a dillad awyr agored addas yn hanfodol.
  • Yn cynnwys trosglwyddo ynni gwres a chyfrifiadau pŵer gan ddefnyddio taenlen excel syml.
  • £60 y sesiwn (hyd at 16 disgybl)

 

Cysylltu â CyDA

Os ydych angen rhagor o wybodaeth neu gymorth, cysylltwch â ni a bydd aelod o’r tîm yn dod i gysylltiad â chi.