Gweithdy Pŵer Dŵr

Gweithdy Pŵer Dŵr

Mae’r gweithdy pŵer dŵr yn rhoi cipolwg ymarferol i’r disgyblion o egwyddorion cynhyrchu pŵer trydan dŵr.

Mae’r gweithdy’n defnyddio system ddŵr CyDA ynghyd â’i beiriant dŵr ‘pico’ a’i rig brofi, sy’n rhoi cyfle i ddisgyblion gynhyrchu a thrin data.

Manylion allweddol

  • Parhau am 2 awr
  • Addas ar gyfer lefel A
  • Canolbwyntio ar bynciau STEM
  • Mae’r gweithdy yn cynnwys mynediad i safle allanol CyDA ac mae esgidiau a dillad awyr agored addas yn hanfodol.
  • Cwmpasu dŵr fel ffynhonnell ynni adnewyddadwy, elfennau peiriant pŵer trydan dŵr ac ymchwiliad gan ddefnyddio ffiseg gymhwysol.
  • £90 y sesiwn (hyd at 20 disgybl)
  • Gellir ymestyn y gweithgaredd hwn drwy ei gyfuno ag ymweliad arolygu oddi ar y safle i orsaf bŵer trydan dŵr fasnachol fawr nid nepell oddi wrth CyDA.


Braslun o’r Gweithdy

Beth sy’n digwydd:

Bydd disgyblion yn cael eu tywys o gwmpas system ddŵr CyDA, o gronfa ddŵr yr hen chwarel i’r generadur dŵr pico y mae’n ei fwydo lawr ar y brif safle. Yna, caiff y disgyblion weld prif gydrannau’r peiriant dŵr a’i system reoli. Byddant wedyn yn cynnal profion llif a phŵer ar y rig profi trydan dŵr ac yn dadansoddi’r data er mwyn ymchwilio i effeithlonrwydd y tyrbin.

Lleoliad y Gweithdy:

Cynhelir y gweithdy hwn ar brif safle CyDA.

Sgiliau a Chysylltiadau Cwricwlwm:

Mae’r gweithdy dŵr yn galluogi disgyblion i:

  • Ennill dealltwriaeth o egwyddorion cynhyrchu pŵer trydan dŵr.
  • Ymchwilio i leoliad ac effeithlonrwydd tyrbin dŵr.
  • Ennill dealltwriaeth o’r prif gydrannau a ddefnyddir wrth greu peiriant trydan dŵr.

Gweithgareddau Cyfoethogi:

Taith oddi ar y safle – Gallwn drefnu ymweliad oddi ar y safle i orsaf bŵer trydan dŵr 56MW mawr ger Aberystwyth (18 milltir o CyDA).

  • Addas ar gyfer lefel A.
  • £120 y sesiwn. Nid yw’r pris hwn yn cynnwys cludiant, ond gellir ei drefnu a bod angen.
  • Dylid caniatáu o leiaf 3 awr ar gyfer y teithio a’r ymweliad yn seiliedig ar grŵp o 24. Bydd rhaid rhannu grwpiau mawr.

Gweithgaredd arolygu – Dysgir disgyblion i ddefnyddio lefel sylfaenol ac yna gofynnir iddynt fesur pwysau’r golofn ddŵr rhwng peiriant dŵr y safle a llyn y chwarel. Yna gellir defnyddio’r data i ragfynegi’r potensial o ran yr ynni y gellir ei gynhyrchu.

  • Addas ar gyfer lefel A.
  • £90 y sesiwn.

Cysylltu â Ni

Cysylltwch â ni i archebu lle neu i ddysgu mwy.