Cerddi Natur

Cerddi Natur

Dilyn Llwybr Chwarel sy’n edrych lawr dros CyDA, y gronfa ddŵr a Dyffryn Dulas. Bydd disgyblion yn ymchwilio i’r hyn sydd i’w weld ymhob tymor, ac yn defnyddio eu synhwyrau i ddarganfod ac yna i ddisgrifio’r byd o’u cwmpas.

Bydd disgyblion yn archwilio ac yn ymchwilio i’r amgylchedd naturiol ac yna’n cydweithio i greu cerddi fydd yn cael eu rhannu yn y Tŷ Unnos. Mae’r Tŷ Unnos yn ofod dysgu atmosfferig a diarffordd wrth ymyl y gronfa ddŵr hardd a’r chwarel gudd yn ddwfn ynghanol y goedwig.

Gwybodaeth allweddol

  • Parhau am 60-90 munud
  • Addas i Gyfnod Allweddol 2 – 4
  • Canolbwyntio ar y cyswllt â natur gyda chysylltiadau i’r fframwaith llythrennedd
  • Mae’r daith yn cynnwys mynediad i safle CyDA. Mae esgidiau a dillad awyr agored sy’n addas ar gyfer gwaith ymarferol yn hanfodol.
  • Pris – £90 y sesiwn
  • Gellir ymestyn a datblygu’r gweithgaredd hwn ar ôl dychwelyd i’r ysgol.
  • Mwyafswm grŵp – 20

Braslun o’r Gweithdy

Beth sy’n Digwydd?

Tywysir y disgyblion i archwilio’r chwarel drwy ddefnyddio eu synhwyrau, ac i gofnodi eu syniadau a’r geiriau a ddefnyddir i ddisgrifio’r hyn y byddant yn ei weld, clywed, arogli a chyffwrdd. Mae cysylltiadau eglur yn cael eu llunio yn ôl oed a chyfnod y disgyblion, gan ddatblygu’r sgiliau a amlinellir yn y fframwaith llythrennedd. Wrth gyrraedd y Tŷ Unnos byddant yn rhannu eu syniadau ac yn ysgrifennu cerddi drwy weithio gyda’i gilydd. Gellir datblygu’r cerddi ymhellach ar ôl dychwelyd i’r ysgol a gellir hefyd eu harddangos ar safle CyDA i ddathlu harddwch yr ardal o gwmpas a’r ysbrydoliaeth a ddaeth o hynny.

Lleoliad

Cynhelir y gweithdy ar brif safle CyDA ac ar y llwybr chwarel cyfagos.

Gweithgareddau Cyfoethogi:

Cyflwyno’r cerddi drwy ystod o gyfryngau gan gynnwys lluniau golosg, sgetshis, lluniau dyfrlliw a ffotograffiaeth.

 

Cysylltu â Ni

Cysylltwch â ni i wneud ymholiadau neu i ddarganfod mwy