Archwilio â’ch Synhwyrau

Archwilio â’ch Synhwyrau

Cynhelir y gweithgaredd hwn yn yr awyr agored mewn amgylchedd coedwig.

Fel rhan o’r gweithgaredd bydd y disgyblion yn archwilio’r ardal gan ddibynnu ar eu gwahanol synhwyrau. Bydd y gweithdy yn canolbwyntio ar gyfathrebu, iaith a llythrennedd. Fel rhan o’r sesiwn, gwahoddir y disgyblion i wisgo mwgwd dros eu llygaid a dibynnu ar eu synhwyrau eraill. Ardderchog ar gyfer adeiladu tîm a hyder. Llawer o hwyl ond gall fod yn fwdlyd a gwlyb!

 

Gwybodaeth allweddol

  • Parhau am 60 – 90 munud
  • Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 – 4 a lefel A
  • Canolbwyntio ar y cyswllt â natur gyda chyfleoedd i adeiladu tîm a thrafodaeth
  • Cynhelir y gweithgaredd hwn mewn coedwig ger y prif safle ac mae esgidiau a dillad awyr agored addas yn hanfodol.       Efallai bydd y disgyblion yn cael mwd arnynt felly argymhellir gwisgo hen ddillad.
  • Pris £90 y sesiwn
  • Grwpiau hyd at 18 mewn nifer

Braslun o’r Gweithdy

Beth sy’n Digwydd?

Arweinir y disgyblion i archwilio yn y goedwig gan ddefnyddio eu synhwyrau, a byddant yn canolbwyntio ar y tymor a’r amgylchedd naturiol. Byddant yn disgrifio’r hyn y maent yn ei weld, clywed, arogli a chyffwrdd. Ar ddiwedd y sesiwn bydd y disgyblion yn archwilio coed a llwybr rhaff. Gwahoddir nhw i wisgo mwgwd dros eu llygaid ac i archwilio gan ddefnyddio eu synhwyrau eraill gyda chymorth partner.

Lleoliad

Cynhelir y gweithgaredd hwn mewn coedwig sy’n ffinio â’r prif safle.

Gweithgareddau Cyfoethogi

Byddwch yn artist amgylcheddol gan ddefnyddio pethau naturiol a ddarganfuwyd. Defnyddiwch eich dychymyg i greu darn o gelf sy’n adlewyrchu harddwch y goedwig ar ardal o gwmpas.

Cysylltu â Ni

Cysylltwch â ni i wneud ymholiadau neu i ddarganfod mwy.