Taith Dywysedig y Goedwig

Taith Dywysedig y Goedwig

Mae’r daith hon, dan arweiniad un o’n swyddogion coedwig, yn dilyn llwybr drwy amgylchedd coedwig o amgylch a gerllaw prif safle CyDA. Fe welir gwarchodfa’r pathew a choed cynhenid a dysgir am fioamrywiaeth y safle.

Gwybodaeth allweddol

  • Parhau – hyd at 2 awr.
  • Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 hyd at lefel A.
  • Canolbwyntio ar fioamrywiaeth a rheoli’r safle – addas o ran diddordeb cyffredinol neu ddiddordeb ecolegol mwy arbenigol.
  • Cynhelir y gweithgaredd hwn mewn ardal goedwig, felly mae esgidiau a dillad awyr agored addas yn hanfodol.
  • Pris £90 – £120 yn dibynnu ar gynnwys a hyd y sesiwn.
  • Maint grŵp – hyd at 20.

Lleoliad

Cynhelir y gweithgaredd hwn ar ac oddi ar lwybrau mewn coedwig uwchben y prif Safle.

Cysylltu â Ni

Cysylltwch â ni i wneud ymholiadau neu i ddarganfod mwy.