cafe foyer

Cyntedd y Caffi

Mae Cyntedd Caffi WISE yn fan golau ac agored gyda rhes o ddrysau gwydr sy’n agor allan i gwrt y bwyty. Mae golau ddydd hefyd yn treiddio i mewn drwy ffenestr do sy’n ymestyn hyd yr ystafell.

Wedi’i lleoli drws nesaf i’r dderbynfa a bwyty CyDA, mae’n lleoliad delfrydol ar gyfer derbyniad canapé, cinio bwffe canol dydd neu ginio gyda’r nos. Mae CyDA’n cynnig gwasanaeth arlwyo llysieuol a bwydlenni tymhorol.

Math:Yn eisteddBwffe yn sefyllBwffe yn eisteddDerbyniad Canapé
Lle i:9018060200