Theatr Sheppard
Theatr Sheppard yw canolbwynt yr Adeilad WISE a man cyfarfod mwyaf CyDA. Mae’n auditorium crwn gyda waliau 7 medr o uchder o bridd wedi’i gywasgu, a seddi rhenciog ar gyfer hyd at 130 o gynrychiolwyr.
Mae drws llithro uchder llawn a chaead disg mecanyddol yn y nenfwd yn agor i roi digonedd o olau naturiol.

Mae gan Theatr Sheppard sgrin gosodedig 3m wrth 2m, taflunydd manylder uwch pwerus, darllenfa gyda meicroffon gosodedig a system sain amgylchynol.


