Ystafell Ymddiriedolaeth Brook

Home » Dewch i CyDA » Llogi Lleoliad » Mannau cynnal digwyddiadau » Ystafell Ymddiriedolaeth Brook

Wedi’i lleoli ar ail lawr Adeilad WISE, mae Ystafell Ymddiriedolaeth Brook yn lleoliad delfrydol ar gyfer cyfarfodydd a fforymau trafod. O’i sedd ffenestr fae fawr, mae’r ystafell yn cynnig golygfeydd godidog o Darren y Gesail, un o gopaon mwyaf deheuol Eryri. Mae sgrin LCD ynni-isel 57″ ynghyd ag uned glywedol yn darparu ar gyfer yr holl anghenion cyflwyno.

Ger Ystafell Ymddiriedolaeth Brook mae dwy ystafell lai, sy’n ddelfrydol i’w defnyddio fel mannau i ymneilltuo o’r brif ystafell gyfarfod. Gellir llogi Ystafell Gwern, Ystafell y Chwarel ac Ystafell Ymddiriedolaeth Brook fel swît.

Ystafell Ymddiriedolaeth Brook