CyDA yn 50 Oed: Ein Cynhadledd Flynyddol i Aelodau (Wedi gwerthu allan)

CyDA yn 50 Oed: Ein Cynhadledd Flynyddol i Aelodau (Wedi gwerthu allan)


Home » CyDA yn 50 Oed: Ein Cynhadledd Flynyddol i Aelodau (Wedi gwerthu allan)

Eleni, bydd ein cynhadledd i aelodau yn edrych yn ôl dros bum degawd o arloesi ac addysg amgylcheddol yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA), ac ymlaen i’r bennod nesaf wrth i ni gydweithio ar atebion i’r argyfwng hinsawdd natur.

Ymunwch â chyd-aelodau CyDA, myfyrwyr, graddedigion, staff a gwirfoddolwyr am benwythnos llawn ysbrydoliaeth, mewnwelediad a chamau gweithredu ymarferol.

Ymunwch â ni o ddydd Gwener 10 Tachwedd tan ddydd Sul 12 Tachwedd

Members in the Sheppard Theatre at CAT
Bydd ein rhaglen lawn dop o sgyrsiau yn archwilio ffyrdd y gallwn ni gydweithio i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. Mae’r llun yn dangos cynhadledd CyDA flaenorol.

Mae CyDA yn gymuned unigryw a grëwyd gan bobl fel chi ar gyfer pobl fel chi

Ers 50 mlynedd rydyn ni wedi bod yn rhannu atebion amgylcheddol. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n helpu i greu byd mwy diogel, iach a theg – ac fe hoffem i chi ddathlu hyn gyda ni yn ein cynhadledd i aelodau.

Archebwch eich tocyn nawr

Mae gweithdai a thrafodaethau’n cynnig y cyfle i rannu syniadau ac ysbrydoliaeth gyda chyd-aelodau CyDA. Mae’r llun yn dangos trafodaeth mewn cynhadledd flaenorol i aelodau.

Dod â phobl a syniadau ynghyd

Mae CyDA yn dod â phobl o bob cefndir ynghyd i greu byd mwy diogel, teg ac iach.

Fel ecosystem, rydyn ni’n gymuned llawn amrywiaeth – o amgylcheddwyr ac entrepreneuriaid i wirfoddolwyr a pheirianwyr, ac o rai sy’n hoff o natur ac academyddion i ymchwilwyr a grwpiau cymunedol.

Rydyn ni’n gymuned sy’n cael ei hatgyfnerthu gan nod cyffredin, sef cydweithio i lunio a rhannu atebion i’r argyfwng hinsawdd a natur.

Hoffem i chi fod yn rhan o hyn.

Ymunwch â ni yn y gynhadledd eleni i ddathlu popeth mae ein cymuned yn CyDA yn ei gyflawni a’i gynllunio.

Prydau bwyd a lluniaeth

Mae eich tocyn i’r gynhadledd yn cynnwys cinio, swper a lluniaeth bob dydd.

Mae’r prydau yn llysieuol, yn dymhorol ac wedi’u hysbrydoli gan yr hyn sydd ar gael yn ein gerddi – gyda nifer o gynhwysion wedi’u tyfu’n lleol neu yn CyDA ei hun hyd yn oed.

Rydyn ni’n sicr y byddwch chi wrth eich bodd gyda’r prydau maethlon a blasus a fydd yn cael eu paratoi i chi ar y safle gan staff ein caffi.

Mwynhewch brydau cartref hyfryd gan gaffi CyDA. Mae’r llun yn dangos cinio bwffe mewn cynhadledd flaenorol.

Gŵyl o syniadau

  • Teithiwch yn ôl mewn amser i ddechrau CyDA drwy wrando ar straeon, ac archwiliwch ein harddangosfa ffotograffiaeth arbennig ar gyfer ein pen-blwydd yn 50.
  • Eisteddwch yn ôl a gwrandewch ar ein panel o raddedigion a chynfyfyrwyr yn sôn am eu hamser yn CYDA, yn hau hadau a arweiniodd at arloesi a newid go iawn yn y byd.
  • Ymunwch â sesiwn Holi ac Ateb gydag Eileen Kinsman, cyd Brif Swyddog Gweithredol y Ganolfan, i gael cipolwg ar ein cynlluniau datblygu cyffrous a chlywed yr hyn a fydd yn digwydd nesaf i CYDA, yn ystod ein 50fed blwyddyn.
  • Dewch i nodi problemau allweddol a chyd-greu datrysiadau ar gyfer Prydain Di-garbon yn ein Labordy Arloesi ‘bach’ gyda Dr Anna Bullen a Dr Ruth Stevenson. Dyma’r tro cyntaf yr ydym wedi cynnal hwn ar gyfer aelodau ac mae’n gyfle gwych i brofi ein prosesau Labordy Arloesi Prydain Ddi-garbon ac i archwilio sut y gallwch eu defnyddio wrth weithredu yn eich cymuned leol.
  • Cyfle i glywed gan brosiectau lleol ysbrydoledig sy’n gweithio i oresgyn gwastraff a rhannu profiad o’ch prosiectau cymunedol chi:
    • Newid y ffordd yr ydych chi’n meddwl am fwyd, gyda Bwyd Dros Ben Aber, a fydd yn sôn am eu taith i ailddosbarthu bwyd dros ben yn eu cymuned, o’u dyddiau cynnar yn yr ysgol, i astudio yn CYDA.
    • Ewch ati i drin y pridd ac i ystyried compostio cymunedol gyda’r Criw Compostio, sef grŵp cymunedol sy’n casglu ac sy’n compostio gwastraff bioddiraddadwy er mwyn cynorthwyo gweithgarwch tyfu bwyd lleol a chynnal sgyrsiau am arferion gofalu am y pridd.
  • Ymunwch â Phennaeth Dysgu ac Addysg profiadol, Amanda Smith, i ddysgu am yr hyn sy’n dod nesaf i’n dosbarthiadau meistr am ôl-osod a chael rhagflas o’r sgiliau y mae eu hangen er mwyn gwneud gwaith ôl-osod yn y cartref.
  • Archwiliwch yr hyn y mae’n ei olygu i ‘ddylunio ar gyfer dadadeiladu’ gydag Arweinydd y Rhaglen, Tim Coleridge, trwy fynd ar daith fanwl o gwmpas ein hadeiladau gwyrdd a dysgu sut y gallwn ddylunio adeiladau gan gadw’r economi gylchol mewn cof.
  • ‘Ansawdd Lle’. Ymunwch â Dr Carl Meddings a Gwyn Stacey o’n cwrs MArch mewn Pensaernïaeth Gynaliadwy i fyfyrio am bwysigrwydd creu lleoedd wrth adeiladu trefi a dinasoedd cynaliadwy, iach, cydnerth ac y mae modd byw ynddynt. Cewch flas o ysgol bensaernïaeth CYDA, a sut y mae’n parhau i addasu ei ffocws ar gyfer ein byd sy’n newid.
  • Rhannwch eich prosiectau, eich gwybodaeth a’ch syniadau chi gyda chyd fynychwyr, gwirfoddolwyr a staff.
  • Cymerwch saib i grwydro llwybrau, coetiroedd a dolydd CyDA, gan ymgolli yn harddwch Canolbarth Cymru.
  • Bruce Parry fydd ein gwestai arbennig, a bydd ef yn:
    • Rhannu dirnadaeth o’i brofiadau unigryw ef o ymweld â chymunedau a gweithio gyda chymunedau ar draws y byd.
    • Archwilio’r hyn y gallwn ei ddysgu o fyw mewn ffordd sydd â chysylltiad dwfn gyda byd natur, ein gilydd, a’n cymuned.
    • Rydym yn ffodus iawn hefyd y bydd Bruce yn cyflwyno dangosiad o’i ffilm, Tawai, sy’n ysbrydoli ac sy’n siarad gyda rhannau ohonom sy’n galaru am y ffaith ein bod wedi colli cysylltiad gyda byd naturiol sy’n newid.

Ddim yn aelod o CyDA? Peidiwch â phoeni!

Er bod ein cynhadledd ar gyfer aelodau cyfredol CyDA, os nad ydych chi wedi ymuno eto – neu os ydych chi wedi gadael i’ch aelodaeth ddod i ben – mae’n hawdd dod yn aelod heddiw.

Ers 50 mlynedd, mae pobl fel chi wedi bod yn rhannu’r dulliau a’r ysbrydoliaeth er mwyn gwneud newidiadau trawsnewidiol am ddyfodol gwell. Rydyn ni’n falch o’ch gwaith – ac rydyn ni’n gobeithio eich bod chithau hefyd.

I ymuno neu i adnewyddu eich aelodaeth heddiw, ychwanegwch ffi aelodaeth o £30 pan fyddwch chi’n archebu eich tocyn i’r gynhadledd.

Rhagor o fanylion

Gallwch gyrraedd o 3pm ymlaen ddydd Gwener, a bydd y gynhadledd yn dod i ben ar ôl cinio ddydd Sul.

Mae tocynnau yn cynnwys yr holl weithdai, sgyrsiau a gweithgareddau, yn ogystal â chinio, swper a lluniaeth bob dydd. Mae brecwast wedi’i gynnwys gydag archebion llety, neu gallwch brynu brecwast ar wahân yn ein caffi.

Archebwch eich tocyn nawr

Awyrlun o CyDA

Prynu tocynnau

Gallwch ddewis p’un a ydych chi am aros yn CyDA yn ystod y gynhadledd neu brynu tocyn heb lety.

Os ydych chi’n bwriadu aros yn CyDA, dylech sicrhau eich bod yn archebu llety ar yr un adeg ag y byddwch chi’n prynu eich tocyn i’r gynhadledd, gan fod lleoedd yn gyfyngedig.

Tocynnau i’r gynhadledd

  • Tocynnau pris llawn – £245
  • Tocynnau consesiynol – £150

I ddod i’r gynhadledd mae’n rhaid i chi fod yn aelod o CyDA. I ymuno neu adnewyddu eich aelodaeth heddiw, ychwanegwch ffi aelodaeth o £30 at y ffurflen archebu ar gyfer y gynhadledd.

Gofynnwn i chi brynu tocyn pris llawn os gallwch chi. Mae pob ceiniog yn helpu i greu dyfodol mwy diogel, iach a theg. Fodd bynnag, dydyn ni ddim am i unrhyw un golli allan, felly mae tocynnau consesiynol ar gael os na allwch chi fforddio ymuno â ni fel arall.

Mae tocynnau’r gynhadledd yn cynnwys cinio, swper a lluniaeth bob dydd. Mae brecwast wedi’i gynnwys gydag archebion llety, neu gallwch brynu brecwast ar wahân yn ein caffi.

Llety

Yn ein llety gwely a brecwast cewch gysgu yng nghanol harddwch CyDA, a rholio allan o’r gwely yn y bore i fwynhau brecwast mawr yn ein caffi.

Dewiswch o blith amrywiaeth o opsiynau:

  • Ystafell wely yn adeilad WISE (yn cysgu hyd at ddau berson) – £180
  • Gwely mewn ystafell gysgu i ddau yn adeilad WISE – £90
  • Gwely mewn ystafell gysgu i ddau yn yr Eco Gabanau – £70
  • Gwely mewn ystafell gysgu i bedwar yn yr Eco Gabanau – £70

Mae’r prisiau a nodir ar gyfer gwely a brecwast am ddwy noson (nos Wener a nos Sadwrn) pan fydd yn cael archebu gyda thocyn i’r gynhadledd.

Os oes gennych chi anghenion penodol o ran llety, nodwch hyn pan fyddwch chi’n archebu a byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich anghenion. Bydd pob mater yn cael eu cadw’n gwbl gyfrinachol.

Mae croeso i chi gysylltu â ni ar members@cat.org.uk / 01654 705988 am ragor o wybodaeth, neu os na allwch chi fforddio tocyn pris consesiynol.

Searching Availability...